Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Merched yn bennaf?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:31, Dydd Mercher, 11 Mawrth 2009

A oes gan ferched ormod o afael ar y byd cyhoeddi Cymraeg?

Mae'n gwestiwn fu'n cael ei wyntyllu yn dilyn sylwadau Lefi Gruffudd o wasg y Lolfa yn y Western Mail ychydig yn ôl.

"Mae'n eithaf amlwg mai menywod sy'n gwneud y cyfraniad amlycaf i'r byd llenyddol yng Nghymru boed o ran sgwennu, hyrwyddo neu werthu llyfrau," meddai Lefi gan fynd ymlaen i nodi mai 14 o ferched a dim ond tri dyn sydd ar staff yr Academi ac mai merched sy'n "arwain y ffordd" yng Nghyfnewidfa Lên Cymru.

Merch hefyd sy'n bennaeth Cyngor Llyfrau Cymru a merched, meddai Lefi, sy'n golygu Tu Chwith, Taliesin, Planet a'r New Wales Review.

Mae'n tynnu sylw at y wasg honno, Honno, hefyd - sy'n derbyn grant gan y Cyngor Llyfrau i gyhoeddi llyfrau i ferched yn unig - gan ofyn:

"Onid yw'n sefyllfa anodd i awduron gwrywaidd gyhoeddi eu gwaith os yw un o'r prif weisg sy'n cael arian cyhoeddus yn dilyn polisi o beidio cyhoeddi unrhyw lyfrau gan ddynion?"

Awgryma rhwng difrif a chwarae tybed na ddaeth yn amser sefydlu gwasg Hwnnw!

Ond ei bwynt mawr yw; "A ddylai dynion feiddio gofyn ydyn nhw dan anfantais annheg y dyddie hyn?"

Y gyntaf a'i bys ar y bysar i ateb y cwestiwn hwnnw oedd Bethan Gwanas yn ei cholofn wythnosol hithau yn y Daily Post.

"Hm. Go brin," meddai'n gryno iawn!

Bethan Gwanas, ar y chwith,  noson cyhoeddi  'Tinboethach'.

Ond y mae hi'n mynd â'r drafodaeth gam ymlaen trwy ddweud mai un rheswm pam y mae merched mor amlwg yn y maes yw "mai merched, ar y cyfan, sy'n prynu a darllen llyfrau".

Ie, er mai dynion - fel Lefi Gruffudd! - sy'n rhedeg y tai cyhoeddi dywed Bethan mai merched "sy'n bendant yn prynu'r rhan fwyaf o nofelau".

Ond go brin y dylai hynny ein synnu'n ormodol gyda chymaint o'n hawduron Cymraeg cyfoes yn ferched.

A chyda hynny mewn cof mae Bethan yn holi ymhellach pam tybed mai dim ond dwy ferch oedd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn y llynedd.

"A dim ond un nofel newydd gan ferch oedd yn y siopau dros y Nadolig gyda llaw," meddai gan ychwanegu:

"Dydi'r sefyllfa ddim cymaint o blaid y genod a hynny, gyfeillion."

Mae rhywun yn dechrau hel meddyliau; tybed oes yna ddeunydd nofel - dinboeth - y tu ôl i'r holl helynt.

Ond gwell peidio a dweud, "Parhaed brawdgarwch"!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.