主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Cyfle Cymreig

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 06:00, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2009

主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd - bore Mercher

Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

A oes gan Gymru ferch i ddilyn yn 么l troed Bryn Terfel a Neal Davies a chipio Gwobr Datganiad 主播大秀 Canwr y Byd?

Mae'r soprano 22 oed o Dreforys, Natalya Romaniw, wedi llamu'n hyderus dros y gamfa gyntaf a chyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, nos Wener.

Hi fydd yr unig ferch a'r ieuengaf o dipyn yn y ffeinal.

Natalya Romaniw

Yn ei herbyn bydd y baswr cawraidd 26 oed o'r Weriniaeth Tsiec, Jan Martinik; Tomislav Lu膷i膰, baswr arall, 31 oed, o Croatia, gyda'r llais fel m锚l; yr uwchdenor Yurly Mynenko, 30 oed o'r Wcr谩in; a'r bariton 27 oed o Chile, Javier Arrey.

Enillydd Natalya y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2008 ac enillydd y gystadleuaeth honno sy'n cael yr anrhydedd o gynrychioli Cymru yn Canwr y Byd y flwyddyn wedyn. Cymru yw'r unig wlad sy'n dewis ei chynrychiolydd yn y dull democrataidd hwn

Gwahoddir ceisiadau gan gantorion o wledydd eraill a bydd Julian Smith yn mynd ar ran trefnwyr y gystadleuaeth i wrando arnyn nhw a dewis pwy fydd yn cynrychioli'r gwahanol wledydd.

Mae i'r ddwy drefn eu manteision ac anfanteision. Anfantais trefn Cymru yw fod ein cantorion yn dueddol o fod yn iau na rhai'r gwledydd eraill ac y mae bariton neu faswr ar y cyfan yn datblygu'n hwyrach. Bryn Terfel oedd yr eithriad.

Dywedodd Natalya iddi gyfarfod Bryn yn ddiweddar yn seremoni wobrwyo Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn Llundain lle mae hi'n fyfyriwr.

"Roedd e'n neis iawn," meddai, "a fe g锚s chydig o gymorth gyda Nghymraeg ganddo fe."

Y brif gystadleuaeth gyntaf
Ond mae gan Natalya berfformiad arall cyn hynny. Heno, (nos Fercher) bydd yn cystadlu ym mhrif gystadleuaeth Canwr y Byd ac yn ei herbyn bydd Javier Arrey a Jan Martinik, sydd hefyd yn rownd derfynol y Datganiad. Dylai fod yn noson anfarwol i'r gynulleidfa!

Yn ffodus, fel y gwelwyd yng nghystadleuaeth y Datganiad, gall mwy nag un canwr fynd ymlaen o'r un rownd ragbrofol i'r rownd derfynol ac nid yw bod yn enillydd noson yn sicrwydd o le ar y llwyfan terfynol.

Yn sicr, cafodd Natalya, Arrey a Martinik hwb fawr i'w hyder.

Dwy ferch arall fydd ar y llwyfan nos heno - dwy gym锚r - yw Katharine Tier o Awstralia a Vira Slywotzky o'r Unol Daleithau. Bydd yn noson dda.

Ond yn y cyfamser, yn 么l at nos Fawrth. Yurly Mynenko o'r Wcr谩in oedd enillydd y noson - un arall fydd yn herio Natalya yn y Datganiad. Yn ddiddorol mae llawer o'r cantorion wedi canu'n llawer gwell i gyfeiliant cerddorfa yn Neuadd Dewi Sant nag i gyfeiliant piano yn y Theatr Newydd.

Roedd yr uwchdenor o'r Wcr谩in yn odidog nos Fawrth yn canu darnau o waith Gluck, Handel a Mozart a gyfansoddwyd ar gyfer castrata ond a genir fel arfer yn ein hoes ni gan y mezzos. Ef gafodd gymeradwyaeth wresocaf y noson, ac yn haeddiannol. Mae ganddo lais rhyfeddol.

Hefyd nos Fawrth, cawsom glywed un arall fydd yn ffeinal y Datganiad nos Wener, Tomislav Lu膷i膰, y baswr o Croatia. Mae'n ymddangos yn iau na 31 oed ac y mae'n canu gyda rhyw aeddfedrwydd diymdrech.

Y cystadleuwyr eraill oedd y Bwyles Izabela Matula, llais hyfryd gyda'r nodau isel a'r canolig ond heb fod cystal gyda'r nodau uchel. Mae hi'n ferch dlos a dymunol iawn ond pwy ddewisodd ei ffrog a steil ei gwallt?

Roeddwn eisoes wedi clywed Csaba Szegedi, cawr o fariton 27 oed o Hwngari yn y Theatr Newydd. Mwynhaodd ei hun yn fawr ar lwyfan Dewi Sant, a chawsom ninnau fwynhad mawr iawn yn gwrando arno. Digon o hwyl ac anwyldeb gyda llais melys iawn. Bydd yn ganwr o fri cyn hir ond mae angen peth sglein ar hyn o bryd.

Mae Claire Meghnagi o Israel yn 31 oed ond mae ganddi lais ifanc o hyd er nad yw'r nodau uchaf cystal 芒 hynny.

Roedd nos Fawrth yn noson amrywiol ac o'r safon uchaf eto. Ac y mae mwy, llawer mwy, i ddod.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.