Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trannoeth Michael Jackson

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Kate Crockett | 20:32, Dydd Sadwrn, 27 Mehefin 2009

Kate Crockett yn sgrifennu o Å´yl y Smithsonian, Washington wedi'r newyddion am farwolaeth Michael Jackson

Fel un o blant yr wythdegau, wrth gwrs roeddwn i'n ffan o Michael Jackson - yn prynu ei recordiau, yn rhyfeddu at y fideos drudfawr, a hyd yn oed yn cael tocyn i'w weld yn canu yn yr hen Barc yr Arfau yng Nghaerdydd yn 1988.

Ond o'r holl enwau mawr i fi eu gweld yn perfformio'n fyw ar hyd y blynyddoedd, y gyngerdd honno wnaeth leiaf o argraff arnaf. Does dim gwadu talent aruthrol Michael Jackson fel perfformiwr ond ni wnaeth unrhyw ymdrech y noson honno i gyfathrebu gyda'r gynulleidfa.

Fflat iawn oeddwn i'n teimlo wedi'r gyngerdd, a hynny er gwaetha'r cyffro o weld seren mor fawr yn dod i Gymru - peth prin iawn yn y dyddiau cyn agor y CIA a Stadiwm y Mileniwm yn y brifddinas.

Ar hyd y blynyddoedd wedyn daeth yn fwyfwy anodd dilyn ei yrfa heb weld bod rhywbeth mawr iawn yn bod. Collodd ei sbarc creadigol ac ar yr un pryd roedd ei ymddangosiad corfforol yn arwydd allanol o'r problemau lu oedd ganddo.

Cafodd gyfle i glirio'i enw mewn llys barn wedi cyhuddiad iddo gamdrin plentyn ond dewisodd yn hytrach dalu miliynau i dawelu'r plentyn hwnnw. Ac er i lys barn ei gael yn ddieuog o gyhuddiad arall yn y blynyddoedd wedyn, yn sicr roedd ei ymwneud â phlant yn annoeth ac yn anaddas, a dweud y lleiaf.

Felly teimladau cymysg oedd gen i o glywed am ei farwolaeth, a minnau yma yn yr Unol Daleithiau i recordio rhaglenni i Radio Cymru am Å´yl y Smithsonian yn Washington DC.

Cofio

Mae Cymru'n un o dair thema yn yr ŵyl eleni a thrannoeth marwolaeth Michael Jackson, trefnwyd digwyddiad coffa iddo ar fyr rybudd gan rai sy'n cymryd rhan yn un o elfennau arall yr ŵyl - Giving Voice, dathliad o'r gair llafar yn y diwylliant Afro Americanaidd.

Ar y llwyfan Radio yna ar y Mall, roedd ei recordiau'n cael eu chwarae, a rhoddwyd cyfle i bobl rannu eu hatgofion ohono.

Digwydd imi daro heibio, a gwrando ar ddwy ddynes yn eu pedwardegau neu'n hŷn yn siarad gyda chriw o blant ifanc am Michael Jackson. Soniodd un am ei balchder a'i hanghrediniaeth pan ddarlledwyd cartŵn yn seiliedig ar y brodyr Jackson pan oedd hi'n blentyn.

Meddai'r llall am ei phlentyndod hithau, "Pan roeddwn i'n gweld Michael Jackson ar y teledu, doeddwn i ddim yn gallu credu 'mod i'n gweld rhywun oedd yn edrych fel fi."

Rhoddwyd y gân Beat It ar y system sain, a heb unrhyw anogaeth, cododd twr o blant ar eu traed i ddawnsio a dathlu .

Yn ddirybudd hollol, teimlais y dagrau'n cronni - nid mewn ffug alar Diana-aidd am un na wnes i ei gyfarfod erioed ond o weld pwysigrwydd Michael Jackson fel arloeswr i'r gymuned hon.

Diolch byth, mae'r plant oedd yn dawnsio o 'mlaen i yn cael eu magu mewn byd ble mae arwyr o bob lliw a hil i'w gweld ar y teledu, mewn ffilmiau, a hyd yn oed yn y TÅ· Gwyn lai na milltir i ffwrdd - ac mae hynny'n werth dathlu.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.