主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Y cychwyn gorau posib - dydd Sul

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Gwyn Griffiths | 05:59, Dydd Llun, 8 Mehefin 2009

Cafodd 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd 2009 y cychwyn gorau posib.
Neithiwr, cafwyd noson o berfformiadau gan bump o unawdwyr y byddai'n fraint talu arian da i glywed unrhyw un ohonyn nhw.

Enillydd y noson oedd soprano 31 oed o Siapan, Eri Nakamura , ac ni chlywais neb yn anghytuno gyda'r beirniaid. Nid yw ennill rownd y noson gyntaf yn sicrwydd o gyrraedd y rownd derfynol ond anodd credu na fydd hon yna'n cystadlu am y brif wobr.

Eri Nakamura

Mae ganddi lais syfrdanol o fawr sy'n gyfoethog ac yn hyfrydwch pur i'r glust ac yr oedd ei pherfformiadau o alawon allan o Manon gan Massenet a Rom茅o et Juliet gan Gounod yn feistrolgar.
Mae hon yn seren.

Ond nid hi oedd yr unig un i swyno'r gynulleidfa. Cafodd Etienne Dupuis, y bariton o Ganada, dderbyniad gwresog. Dyma actor hyderus er efallai bod ei lais fymryn yn brin o gynhesrwydd.

Profodd Dana Bramane, y soprano 25 oed o Latfia, fod ganddi lais ardderchog yn ehedeg uwchlaw'r gerddorfa. Mae'r baswr o Ariannin, Fernando Javier Rad贸, sydd ond yn 23 oed, yn meddu ar lais, personoliaeth a dawn actio hefyd.

Hefyd clywsom soprano arall - tair soprano ardderchog yr un noson! - Emiliya Ivanova, 27 oed o Fwlgaria a ganodd Regnava nel silenzio allan o Lucia di Lammermoor gan Donizetti yn wirioneddol hudolus.

Ond yn ddiamau nid oedd neb am anghytuno 芒 dyfarniad y beirniaid mai y ferch o Siapan oedd yr orau. Ond ni fuaswn, ychwaith, yn synnu gweld mwy nag un o gystadleuwyr neithiwr ar y llwyfan terfynol.

Haedda Paul Daniel, arweinydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, air o ganmoliaeth am y modd llawn cydymdeimlad ac astud y cyfeiliwyd i'r cantorion.

Y Wobr Datganiad
Ynghynt, treuliais brynhawn pleserus yn y Theatr Newydd yn gwrando ar chwech o gantorion ail rownd cystadleuaeth y Wobr Datganiad.

Roedd Csaba Szegedi yn glamp o fariton, gwerinol yr olwg, o Hwmgari, gyda llais cynnes a chyfoethog a braf ei weld, fel nifer o'r cystadleuwyr eraill, yn canu gweithiau cyfansoddwyr o'u gwledydd - dwy g芒n o waith ei gydwladwr Kod谩ly yn ei achos ef.

Mae Helen Kearns o Ddulyn yn soprano ddeniadol ei llais a'i hymddangosiad. Cawsom berfformiadau syml, di-rodres ganddi o weithiau Richard Strauss, Schubert - neilltuol o dda - a Ravel, a hefyd c芒n o waith y Sais Michael Head wedi ei chyfansoddi i gerdd a sgrifennodd Francis Ledwidge a laddwyd yn y Rhyfel Mawr ym 1917.

Mae Tomislav Lu膷i膰, y baswr 31 oed o Croatia yn dipyn o dalent. Llais cyfoethog drwy'r holl rychwant ac rwy'n tybio y buasai'r gynulleidfa wedi dymuno mwy o amrywiaeth yn ei ddewis na'r tair c芒n gan Hugo Wolf a dwy gan Shostakovich. Ond dyma un i gadw golwg arno.

Daeth yr uwchdenoriaid yn fwy amlwg yn y gystadleuaeth yn y blynyddoedd diwethaf. Rhoes Yurly Mynenko, 30 oed o'r Wcr谩in, berfformiadau cyfareddol o Vaga luna, che inargenti gan Bellini a La lontananza Donizetti. Mae llais Mynenko'n odidog ond heb fod cystal ar y nodau uwch.

Soprano eto sy'n cynrychioli Pwyl, Izabela Matula, 29 oed. Ai fel mezzo y bydd yn gwneud enw iddi ei hun maes o law? Mae ei llais yn debyg i'r Saesnes Anna Stephany ond yn agosach atoch chi. Canu hyfryd, di-lol, o ganeuon gan Tchaikovsky, Sibelius, Richard Strauss a Schubert.

Yn olaf cawsom fariton arall, Javier Arrey 27 oed o Chile. Llais mwyn, mor hyfryd, a chanwr cynnil, di-ffwdan. Canodd ganeuon gan Dvo艡谩k, Schumann ac un o waith Carlos Guastavino, un o gyfansoddwyr ei wlad. Synnwn i ddim gweld hwn yn gwneud yn dda yn y ddwy gystadleuaeth.

Er iddi gael hwyl dda yn y gystadleuaeth am y Wobr Datganiad dywedodd Helen Kearns wrthyf ei bod yn gwir edrych ymlaen at ganu gyda cherddorfa yn Neuadd Dewi Sant.

"Mae'n well gen i ganu gyda cherddorfa," meddai er nad oedd am gyfaddef mai eilbeth yn ei golwg yw cystadleuaeth y g芒n.

Yr oedd yn llawn canmoliaeth o'r cymorth a'r gofal a gaent fel cystadleuwyr gan 主播大秀 Cymru.

Ac wedi mymryn o gellwair am y pwysigrwydd o yfed digon o dd诺r i wrthsefyll effeithiau sustem awyru Neuadd Dewi Sant ac ychydig o chwisgi Gwyddelig Middleton: Very Rare - "pwysig iawn cael Very Rare" - dymunais yn dda iddi gyda'r sylw mai braf oedd gweld y cantorion mor frwd eu cefnogaeth i'w gilydd.

A mor barod i sgwrsio gydag aelodau o'r gynulleidfa - un o nodweddion arbennig y gystadleuaeth o'i chychwyn.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.