Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae isio gRas

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:37, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

Nes i rywun ofyn imi "Sut mae'r ras yn mynd?" y dydd o'r blaen wyddwn i ddim fy mod i mewn ras o gwbl.

Ond mae'n ymddangos bod yna ymgiprys rhwng Vaughan Roderick, un arall o flogwyr y Ö÷²¥´óÐã, a Hywel gwynfryn a minnau pwy sy fwyaf cegog.

Hynny yw pa un ohonom fydd yn 'postio ' - a defnyddio'r derminoleg yr ydw i mor gyfarwydd â hi - y mwyaf o sylwadau ar ei flog gyda Vaughan yn ofni bod y ddau ohonom yn bygwth ei goron!

Y cwestiwn cyntaf a ddaeth i'm meddwl i, yn naturiol, oedd; A yw hi'n bosib bod mewn ras nad ydych chi'n gwybod ei bod yn cael ei rhedeg? - ac mae metaffisegwyr wedi rhoi eu pennau i oeri mewn bwcedeidiau o ddŵr oer wrth fynd i'r afael a chwestiynau llai dyrys na hwnna.

Pethau fel, Pam yda ni yma? Yn blogio o gwbwl.

Beth bynnag, a ydio'n gwestiwn sy'n mynd a'ch bryd chi ai peidio, piciwch draw am dipyn o synnwyr cyffredin i flog Vaughan sydd, beth bynnag am unrhyw râs, ymhlith y difyrraf o flogiau, ac newydd ei ddewis yn nawfed blog gorau 'Total Politics' gan guro rhenciau hirion o flogiau Saesneg..

Ac un peth y gallwch fod yn sicr ohono; pwy bynnag fydd yn ennill y ras-na-wyddwn-amdani fe ddywed y sawl sy'n colli mai sylwedd nid swmp sy'n cyfrif yn y pen draw.

O leiaf, dyna fydda i'n i ddweud os collai.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.