Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhai'n gymwys - rhai ddim

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:12, Dydd Mercher, 12 Awst 2009

Y stori orau i mi ei chlywed yn Eisteddfod Y Bala oedd un y Parchedig Huw Jones yn agor y Babell Lên gan ragymadroddi y gallai'r pwyllgor fod wedi cael rhywun "llawer cymhwysach" nag ef i wneud y gwaith.

"Fe allen nhw fod wedi dewis rhywun cymhwysach - beth bynnag am salach," meddai gan fynd yn ei flaen:

"Pan fydda i'n teimlo fymryn yn anghymwys i gyflawni ambell i orchwyl fy nghysur i ydi geiriau rhyw hen wreigan yn Y Drenewydd."

Eglurodd ei fod ar adael Y Drenewydd ac yn mynd rownd ei bobl i ffarwelio â nhw - yn eu plith Mrs James a oedd yn tynnu at ei chant oed.

"Pan godais i fynd mi gododd hithau hefyd ac estyn ei llaw i mi. 'Mr Jones,' medda hi. 'Dwi iso diolch ichi am ddod atom ni i'r Drenewydd.'

"'Ond y fi sydd i ddiolch i chi, dwi'n siŵr, am gael bwrw mhrentisiaeth fel gweinidog yma,' medda finna.

"'Mr Jones,' medda hi. 'Gwrandwch chi arna i. Dwi isio diolch ichi am ddod ato ni i'r Drenewydd. Mi fuasa un llawer salach wedi gwneud y tro i ni - ond inni fethu'i gael o.'"

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.