Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yn symol eto - am y tro olaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:44, Dydd Sul, 9 Awst 2009

A dyma'r casgliad olaf o ffigurau difyr/diddorol/diflas/di-fudd/dibwrpas - croeswch allan i siwtio'ch pen y bore ma - o faes Y Bala:

20,178 - o ymwelwyr a'r Eisteddfod ddoe, dydd Sadwrn.

164,689 - o ymweliadau â'r maes yn ystod yr wythnos.
Mae rhai'n dweud 'o bobol ' ond fyddai hynny ddim yn gywir gan i rai cannoedd ymweld fwy nag unwaith. Ond fe fyddai'n ddiddorol gwybod sawl unigolyn ymwelodd â'r Ŵyl yn ystod yr wythnos. Rhywbeth i Ms Carr, yr aelod newydd o Tîm Steddfod, ei wneud i'n helpu y flwyddyn nesaf efallai.

300 - o stondinau ar y maes.

90 - awr o deledu byw o'r Steddfod yn ystod yr wythnos.

5 - milltir o bapur tŷ^ bach a ddefnyddiwyd yn ystod yr wythnos - yn ôl y Wales on Sunday heddiw. Ac rwyf i, o leiaf, yn hynod anniolchgar iddo am ymgymryd â'r ymchwil a ddatgelodd hyn.

5 - cystadleuaeth lle bu atal y wobr.

830 - o garafanau ar y maes carafanau.

7 - gwaith oedd y nifer fwyaf o weithiau y cefais fy neffro yn fy ngwely berfeddion nos gan sŵn Maes B i fyny'r lôn.

0 - o straeon newyddion am yr Eisteddfod yn y Wales on Sunday - Pride of the Nation heddiw.

Ymddiheuriad: oherwydd cyfyngder lle ar y we fyd eang a diffyg darn o bapur digon hir nid oes digon o ofod ar y safle hwn i gynnwys y ffigwr sy'n nodi faint o oriau fydd S4C yn eu hailddarlledu o'r Eisteddfod hon dros y flwyddyn nesaf.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.