Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Twll Taliesin

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:18, Dydd Mawrth, 29 Medi 2009

Gydag ond ychydig dros fis cyn y bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn dod i benderfyniad ynglŷn â dyfodol Barn a Sylw mae cylchgrawn Cymraeg arall wedi cael ei hun mewn twll wrth i'w olygyddion ymddeol.

Er nad oedd unrhyw awgrym yn rhifyn diweddaraf y byddai hynny yn digwydd, mae Manon Rhys a Christine James wedi dweud ers hynny y byddan nhw'n mynd.

Ac ar y radio ddoe cadarnhaodd Harri Pritchard Jones, cadeirydd yr Academi, sy'n cyhoeddi Taliesin, i'r cyhoeddiad gan y ddwy ddod "yn sydyn".

Yn wir, yn y rhifyn diwethaf ond un yr oedd y ddwy yn eu nodiadau golygyddol yn addo wrth gyfiawnhau codi pris y cylchgrawn o £4 i £6.95 ymdrechu "fel erioed" i ddarparu'r gwerth gorau am arian ym mhob rhifyn "o ran cynnwys a diwyg".

Gorfodwyd y codiad sylweddol hwnnw gan benderfyniad Cyngor Llyfrau Cymru i roi llai o grant i'r cylchgrawn a hwythau, ill dwy, yn "mynegi ein pryder ynghylch y penderfyniad i godi'r pris i'r fath raddau mewn un naid".

Manon Rhys a Christine ar wefan Taliesin

A dyma nhw yn awr, wedi cyhoeddi ond un rhifyn yn unig am y pris newydd, yn cyhoeddi eu bod am ddirwyn eu tymor i ben ddeng mlynedd ers derbyn yr awennau yn 1999.

A hynny, er iddyn nhw ddweud yn eu rhifyn £6.95 cyntaf eu bod yn "edrych ymlaen" at rifyn dathlu denglwydd eu golygyddiaeth fis Rhagfyr 2009.

"Ddeng mlynedd, a deg rhifyn ar hugain yn ddiweddarach, a'r unfed ganrif ar hugain hithau bron yn ddeng mlwydd oed, bydd yn naturiol inni yn rhifyn 138 ystyried rhai o'r newidiadau a'r datblygiadau aruthrol a welwyd mewn sawl maes yn ystod y degawd diwethaf," medden nhw.

Yn siarad gyda Gwilym Owen ar Radio Cymru ddoe gwadodd Harri Pritchard Jones bod unrhyw awgrym o dorri calon yn eu penderfyniad i ymadael dim ond teimlad ei bod yn "amser symud ymlaen" i wneud pethau eraill.

A'r dyfodol i'r cylchgrawn a'i 800 o brynwyr?
Wel, mae gan olygyddion mewn gobaith tan Hydref 16 i anfon eu cais i mewn i'r Academi - ar gyfer cael eu cyfweld ar Dachwedd 10 - heb anghofio cynnwys "amlinelliad cryno (tua 500 gair) o'u gweledigaeth ar gyfer y cylchgrawn".

Un peth sy'n sicr, bydd pwy bynnag ddaw i'r adwy mewn olyniaeth anrhydeddus iawn gyda Gwenallt, y golygydd cyntaf yn 1961.

Ac ymhlith y rhai a'i dilynodd ef yr oedd D Tecwyn Lloyd, Islwyn Ffowc Elis, R Gerallt Jones a Bedwyr Lewis Jones . . .
Taliho.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.