Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwilio am y cyffro nesaf . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:30, Dydd Iau, 26 Tachwedd 2009

A dyma hi'n ddiwedd y byd unwaith eto. Y dydd o'r blaen bum yn gweld y ffilm 2012. Ffilm sy'n fwrlwm o lawogydd, daeargrynfeydd, ffrwydradau, llifogydd - a dyrnaid o eirch Noah modern ar gael i achub detholion dynoliaeth.

Mae'r ffilm yn hynod am ddau beth:

  • Nid syrffed gorboethi bydeang trwy gamddefnydd dyn o'r blaned sy'n cael y bai ond diffyg naturiol ar yr haul.
  • Y daeargrynfeydd ysgytwol sy'n disodli a chwalu rhai o wrthrychau ac adeiladau mwyaf eiconig y byd. Maen nhw'n ysgubol.

    Crist yr Andes uwchben Rio yn syrthio'n ddramatig i'r llawr; nenfwd enwog y Capel Sistinaidd yn hollti'n ddau reit lle mae bysedd Duw a dyn ar fin cyffwrdd a dinas Los Angeles yn chwalu o'n blaenau a mynyddoedd yn rhwygo a chwympo.
  • Ond eto. Er mor drawiadol y golygfeydd hyn dydy nhw ddim yn cyffroi ac yn peri y rhyfeddod fyddech chi'n ei ddisgwyl. Nid fel roedden nhw a rhyw 'Dyna fo, da iawn,' fu ymateb cynulleidfaoedd.

    Golygfa o 2012

    Hynny, wrth gwrs, oherwydd inni weld rheseidiau o olygfeydd tebyg mewn degau o ffilmiau dros y blynyddoedd diwethaf diolch i feistrolaeth dechnegol ddihysbydd ac, yn anorfod, cynulleidfaoedd yn eu derbyn mewn edmygedd digon difater a heb gyffroi rhyw lawer bellach.

    A hynny, yn ei dro, yn gwneud i rywun holi; Beth andros all gwneuthurwyr ffilm ei wneud nesaf i gyffroi pobl?

    Ydyn nhw wedi cyrraedd pen draw eu gallu i gyffroi - ynteu ai'r cam nesaf fydd teimlo'r dyfroedd o amgylch ein traed yn y sinema a chwithau'n gorfod rhuthro adref er mwyn newid i ddillad sych?

    A chuddio dan ein seddau dan gawodydd o fwledi!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.