Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Colli etholiad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:44, Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009

Hira'n byd mae rhywun yn meddwl am y peth mwya'n byd mae rhywun yn cael ei argyhoeddi y byddai'n teimlo'n anhapus iawn yn mynd i'w wely nos Wener diwethaf pe byddai'n aelod o Orsedd y Beirdd a Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar amrantiad cafodd yr aelodau hyn eu hamddifadu o etholiad i ddewis yr Archdderwydd nesaf.

Hynny, mae'n ymddangos, oherwydd i rywrai - sy'n amlwg yn teimlo eu bod yn gwybod yn well na'u cyd aelodau - ymyrryd i drefnu trafodaethau gyda'r ddau oedd wedi eu henwebu'n ddemocrataidd ar gyfer y swydd gan beri i Mererid Hopwood dynnu ei henw yn ôl.

Tybed beth ddywedwyd wrthi? Beth bynnag, fel y dywedodd Gwilym Owen ar ei raglen radio, Wythnos Gwilym Owen, ddoe, wrth gyfeirio at ei hymgiliad o'r râs gyda T James Jones:

Mererid Hopwood - tynnu nol

"Trwy ddirgel ffyrdd a heb esboniad diflannodd y prifardd gringoch dros y grib - digwyddodd, darfu, megis seren wib."

Tony Benn ddywedodd rywdro mai etholiad ydi'r peth gorau a'r peth pwysicaf allwch chi ei gael mewn democratiaeth.

Yn amlwg, nid dyna farn Gorsedd y Beirdd a ruthrodd gyda chyflymdra annheilwng a bron yn anweddus i ddileu'r angen i ethol yr Archdderwydd nesaf trwy gynnal "trafodaethau" gyda T James Jones a Mererid Hopwood a chael un i dynnu'n ôl.

Hyd y gwn, ni chafodd aelodau'r Orsedd â hawl i bleidleisio wybodaeth am union natur y trafodaethau hynny na beth ddywedwyd wrth a chan yr enwebedig ac nid ymgynghorwyd â hwy.

"Yda chi'n hapus efo'ch Archdderwydd newydd?" meddwn i wrth aelod o'r Orsedd bore ddoe.

"Chawsom ni ddim dewis, naddo," meddai'n sych.

Ar amrantiad trowyd yn llwch a lludw ddydd Gwener diwethaf yr egwyddor bwysig o bleidlais-i-bawb y brwydrodd y prif Lenor Robyn Llŷn mor ddygn i'w sefydlu bron i ddeng mlynedd yn ôl bellach.

Nid yn haul llygad goleuni y digwydd pob gweithgaredd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:24 ar 13 Tachwedd 2009, Elfed Roberts ysgrifennodd:

    Hoffwm gywiro un honiad sydd nid yn unig wedi ymddangos yn y darn dan y penawd Colli Etholiad ond hefyd yn y darn gan Alun Rhys a ddarlledwyd ar Radio Cymru nos Iau, 5ed o Dachwedd. Dywedodd Alun Rhys, gohebydd y mae gen i barch mawr iddo,y byddwn i yn rhinwedd fy swydd fel prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal trafodaethau gyda rhai a enwebwyd ar gyfer y swydd o Archdderwydd.

    Nid yw hyn yn gywir gan na wnes i drafod unrhyw beth gyda yr un o'r ddau oedd wedi eu henwebu. Yr unig beth wnes i oedd cysylltu a'r ddau ar y ffon a dweud wrthynt fesul un eu bod wedi cael eu henwebu ac yna gofyn iddynt os oeddynt yn barod i'w henwau i fynd ymlaen fel y gallasai aelodau o'r Orsedd bleidleisio i ddewis pwy fyddai Archdderwydd newydd Cymru.

    Dywedodd un ohonynt wrthyf, sef Mereid Hopwood, nad oedd hi'n dymuno i'w henu i fynd ymlaen.

    Dyna yn unig a ddigwyddodd.

    Ffrwyth dychymyg Gwilym Owen a Glyn Evans yw'r nonsens sy'n awgrymu fy mod i ac eraill wedi ymyrryd yn y broses.

    Trueni na fyddai y ddau wedi codi'r ffon i ofyn i mi egluro beth yn union oedd fy nyletswyddau yn hyn oll.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.