Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwaharddiadau tymhorol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:59, Dydd Iau, 24 Rhagfyr 2009

Awgrymodd rhywun y dylem gyhoeddi rhestr o hen, hen, arferion Nadolig na fyddid wedi eu caniatáu dan reolau iechyd a diogelwch modern. Felly dyma nhw - ond mae'n siŵr bod rhai eraill. Anfonwch i ddweud.

  • Cusanu dan yr uchelwydd - perygl o drosglwyddo ffliwiau, doluriau annwyd ac ati.
  • Tynnu cracyrs - peryglon llosgi bysedd, niwedio'r clustiau, dychryn plant bach ac yn waeth byth, cathod a chŵn.
  • Rhoi 'chwecheiniog' mewn pwdin Dolig - perygl tagu. Weithiau byddai'n ddeuydd dri cyn y byddai'r enillydd yn cael ei arian yn ei ddwylo beth bynnag ar ôl llyncu'r darn.
  • Addurno gyda chelyn - rhy bigog a'r ffrwyth yn wenwynig.
  • Addurno gydag eiddew - gwenwynig. Peryg syrthio wrth ei gasglu.
  • Parti Dolig - un o'r pethau peryclaf dan haul
  • Partis Dolig - perygl o feddwi, chwalu priodasau, meddwi, mwynhau eich hun, methu mynd adref, cael eich cloi mewn cwpwrdd. Mae unrhyw beth yn bosib.
  • Coeden Nadolig - peryg o gwympo ar eich pen. Ei dail yn eich bwyd. Annog cŵn i godi'u coesau yn y tÅ·.
  • Canu Plygain - peryg mynd ar goll yn y tywyllwch. Llygredd sŵn.
  • Hela'r Dryw - mynd yn sownd mewn drain.
  • Santa Clôs - baglu yn y tywyllwch. Mynd yn sownd mewn simdde. Trawiad o orfwyta minspeis. Brathiad gan garw. Cic gan garw. Corniad gan garw. Mae'r dyn yn beryg bywyd.
  • Canhwyllau - llosgi'r tÅ·.
  • Llosgi'r pwdin - llosgi'ch aeliau. Llosgi'r tÅ· eto. [Ydi hynny'n bosib os ydych wedi'i losgi'n barod efo'r canhwyllau?]
  • Cwrw, gwinoedd a gwirodydd - perygl dybryd ichi fwynhau eich hun a fyddai hynny ddim yn gwneud y tro o gwbwl.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.