Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dwyn i gyfrif

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:53, Dydd Llun, 11 Ionawr 2010

Oherwydd yr eira welais i ddim faint o sylw a roddwyd yn y papurau enwadol Cymraeg i awgrym offeiriad yn Swydd Efrog ei bod yn iawn i'r tlodion dan rai amgylchiadau ddwyn lluniaeth a bwyd o siopau mawrion.

Efallai na roddwyd sylw o gwbl i'r hyn a ddywedodd y Tad Tim Jones ar un o'i bregethau cyn y Nadolig.

Sôn yr oedd o'n benodol am anffodusion yn cael eu gollwng yn rhydd o garchar a'r nawdd i'w cynnal nes iddyn nhw ddod o hyd i waith a chyflog yn sownd mewn rhyw dâp coch yn rhywle a hwythau heb geiniog i gynnal eu hunain.

Ar eu cythlwng felly, byddai pob math o demtasiynau yn eu hwynebu a phrysurodd y Tad Jones i'w cynghori i beidio a dwyn oddi ar bobl ac i beidio â lladrata o dai gan fod hynny yn drosedd yn erbyn yr unigolyn.

"Fy nghyngor i fel offeiriad Cristnogol yw i ddwyn o siopau. Dydw i ddim yn cynnig cyngor o'r fath oherwydd fy mod yn meddwl fod dwyn yn beth da nac ychwaith am y tybiaf ei bod yn weithred ddiniwed gan nad yw y naill na'r llall," meddai.

Ond beth mae dyn i'w wneud pan fo hi wedi mynd i'r eithaf arno? Meddai'r offeiriad:

"Fe fyddwn yn gofyn ichi beidio â dwyn oddi ar fusnesau bychain teuluol ond oddi ar fusnesau cenedlaethol mawrion, gan wybod y bydd y gost yn cael ei throsglwyddo i'r gweddill ohonom ar ffurf prisiau uwch," meddai.

"Fe fyddwn yn gofyn hefyd ichi beidio â chymryd mwy na'r hyn sydd ei angen," ychwanegodd - a pheidio a dal ati i ddwyn am fwy nag sydd raid.

Cafodd sylwadau'r offeiriad deugain oed sy'n gwasanaethu plwyfi Sant Lawrence a Santes Hilda sylw ar hyd a lled y byd dros y Nadolig gyda sawl sylwebydd am ddwyn yr offeiriad i gyfrif.

Yn enwedig y rhai hynny sy'n mynnu nad oes yna'r fath beth a throsedd fach a throsedd fawr - dim ond trosedd.

Ond oedd o'n iawn?
A ellir cyfiawnhau rhai troseddau ar sail angen ac ar sail beth all y sawl y troseddir yn ei erbyn ei fforddio?
Mae'n wybyddus, beth bynnag, fod archfarchnadoedd yn prisio nwyddau gyda cholled trwy ddwyn yn rhan o'r pris.

Ac am bob un a gondemniodd y sylw yr oedd digon a welai rywbeth yn apelgar yn y syniad o elwa ar yr ariannog a'r mawr ei elw wrth i unigolyn droi'n rhyw fath o Robin Hood iddo ef ei hun.

Y bobl hynny, mewn dyddiau fu, na fyddai wedi gweld dim o'i le mewn rhoi tro yng nghorn ffesant teulu'r plas neu gyllell yng ngwddf dafad ffermwr cefnog liw nos i fwydo'i deulu tlawd.

Sawl un wedi'u pacio'n heidiau am Awstralia ddyddiau fu heb fendith unrhyw offeiriad.

Beth feddyliwch chi - oes yna rai troseddau sy'n haeddu cael eu goddef oherwydd yr amgylchiadau y'u cyflawnir?

Ynteu ydi hon yn gors rhy beryglus i Gristion feddwl mentro iddi?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:52 ar 12 Ionawr 2010, Hogygog ysgrifennodd:

    A ddwg wy, a ddwg fwy. Gwnaeth yr offeiriad ddrwg mawr i Gristnogaeth drwy ei eiriau, ac mae'r 'tabloids' , am unwaith , yn llygad eu lle.
    Mae'n cymdeithas bellach yn darparu nawdd cymdeithasol i bawb.
    Cofiwch ymateb Thomas More yn y ddrama 'Man for all Seasons' pan ddywed Richard Rich fod angen wfftio'r gyfraith i ymlid y diafol - mae'r gyfraith yna
    i'n hamddiffyn i raddau helaeth rhag ddrygioni.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.