Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 18:13, Dydd Gwener, 15 Ionawr 2010

Ar ddydd Gwener, cofio'r wythnos drwy rai o'r pethau doeth a doniol a ddywedwyd gan wahanol bobl. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a glywsoch chi.

Ffwrdd a ni ta - dyma rai'r wythnos hon:

  • Ni chysgaf, nid af o dÅ·,
    Ym mhoen ydd wyf am hynny.
    Nid oes fyd na rhyd na rhiw,
    Na lle rhydd na llawr heddiw.
    Twm Morys, yn Y Cymro, a Hywel Gwynfryn, yn ei blog , yn dyfynnu o gywydd Yr Eira, Ieuan ap Rhys ap Llywelyn a aeth ymlaen i ddweud:

    Ni'm twyllir o'm tÅ· allan

    Ar air merch i'r eira mân.

    Pla yw'r gwaith, plu ar y gŵn

    A drig fal chwarae dragwn.

  • Byddai gadael i bethau tewion grwydro'r safle yn fygythiad uniongyrchol i'n model busnes a'r holl syniad y tu ôl i BeautifulPeople.com - Robert Hintze yn egluro pam y mae gwefan i bobl brydferth wedi diarddel aelodau o Gymru sydd wedi ennill pwysau.
  • Yr ydw i'n cael cawod bob nos - ddwywaith y dydd ar dywydd poeth. Ond fe fydd darllenwyr [fy mlog] yn cofio imi gael trafferth gyda cheseiliau chwyslyd o'r blaen - Y Ceidwadwr, Glyn Davies, yn datgelu'r cyfan ar ei flog.
  • Fi'n hopeless gyda glanhau a thalu bills, yn tueddu i adael i'r wraig wneud e - Derwyn Jones, cyn chwaraewr rygbi ac ymgeisydd buddugol ar Dudley: Pryd o Sêr yn ateb cwestiwn Golwg, "Beth ydych fwyaf anobeithiol am ei wneud?"
  • Fe edrychodd ar fy ôl drwy'r wythnos; fu dim raid imi wario ceiniog - Charlene Ball, 22 oed, o Gaerdydd am y cariad a gyfarfu yn sgil y rhaglen deledu Take Me Out.
  • Dylai Cymru fod â diwydiant ffilm ffantastig ond does yna ddim byd yn digwydd - John Hurt yr actor.
  • Dywedwyd wrthyf, i 17 yn fy ysgol gyfun leol fethu a chael gradd o gwbl yn arholiadau lefel A y llynedd. Cefais hynny'n anghredadwy o gofio pa mor hawdd yw'r arholiad - y cyn gynghorydd Jeff Jones o Benybont-ar-Ogwr sy'n awr yn ymgynghorydd addysg sy'n brwtydro dros gael tablau cynghrair ar gyfer ysgolion yng Nghymru.
  • £406.70 - y swm, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, y mae pob teulu yng Nghymru yn ei wario bob wythnos ar bopeth o fwyd i adloniant.
  • Doedd o ddim yn ymddiheuriad mewn gwirionedd gan fod ymddiheuriad yn cynnwys cyfaddefiad o gamgymeriad neu gamymddygiad - Ymateb ymgyrchydd Thalidomide, Rosie Moriarty-Smith o Gaerdydd, i 'ymddiheuriad' Llywodraeth San Steffan ddydd Iau.
  • Mae tranc y Gymraeg yn prysur ddyfod - gweler enghreifftiau o arwyddion gwallus benbaladr yn yr hen wlad. Mae iaith plant ysgol a'n cyfryngau yn wallus - rhai hyd yn oed yn ymhyfrydu nad yw eu hiaith ymysg y gorau ac yn ymfalchïo mewn ymadroddion "ffab" a "³¦Åµ±ô", yn trosglwyddo'r fath fratiaith i'r to nesaf . . . - Siôn Rees Williams, athro Cymraeg i dramorwyr ac oedolion mewn llythyr yn Golwg.
  • Dwi ddim yn un am arian . . . felly hoffwn ddefnyddio'r arian i sefydlu canolfan ar gyfer bocswyr sydd wedi ymddeol gan fod llawer yn dioddef o iselder neu'n dibynnu ar gyffuriau - Alex Harries, Pobol y Cwm, yn ateb y cwestiwn beth fyddai'r peth cyntaf a wnâi pe enillai'r Loteri.
  • Ar brydiau mae Collins wedi chwarae mwy fel yr actores Joan na Jerry a gododd fraw ar bawb yng nghrys du Seland Newysdd - Y sylwebydd rygbi Wyn Gruffydd yn rhoi inni hyd a lled Jerry Collins, Y Gweilch.
  • Yr anorchfugol Clermont - pennawd papur newydd yn Ffrainc ddyddiau cyn i'r Gweilch wynebu Clermont-Auvergne.
  • Rwy'n credu y bydd [Dan] Biggar yn chwaraewr o bwys i Gymru; yn fuan yn hytrach nag yn hwyrach - Barry John.

[Os byddwch yn anfon trosiad o ddyfyniad Saesneg atom cofiwch gynnwys y fersiwn wreiddiol hefyd gyda'r ffynhonnell.]

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.