Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhagor o beli

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:22, Dydd Iau, 7 Ionawr 2010

"Lle gwell i ddod o hyd i eiriau a dywediadau yn ymwneud ag eira na llyfr Twm Elias, Am y Tywydd," meddai Lowri yn dilyn fy sylwadau y bore ma.

Twm Elias

Lle'n wir ac y mae adrannau ynddo am Farrug a Rhew ac am Eira a Chenllysg ac ymhlith y dywediadau sy'n cael eu cynnwys mae:

  • Yn chwipio rhewi
  • Yn rhewi'n ffyrnig
  • Yn rhewi'n gethin
  • Yn rhewi'n filen
  • Yn rhewi'n gorn
  • Yn rhewi'n gog

A thros y dyddiau nesaf yma diau y bydd y rhestr nesaf yma yn un ddefnyddiol wrth inni geisio cyfleu pa mor oer yw hi mewn gwirionedd. Yn ddigon oer . . .

  • ichi orfod dweud 'chi' wrtho fo.
  • I rewi cathod
  • I rewi cathod mewn popty.
  • I rewi tegell ar ben tân
  • I rewi potel ddw^r poeth yn y gwely.
  • I rewi'r carth yn y pared.
  • I rewi baw yn nhin aderyn.
  • I sythu blacs - sy'n golygu yng Ngwm Afan, fe eglurir, i ladd chwain!

Dim sôn, fodd bynnag am fod ddigon oer i rewi rhech fel y dywedir yn ambell i ardal.

Ac yn Sir Fôn clywais ei bod hi'n "rhy oer i rewi" ambell i noson!

Mae gan Twm Elias hefyd luwchiad o ddywediadau eira gan gynnwys y tra phoblogaidd "Eira mân eira mawr" ac amrywiadau ohono fel "Eira mân wnaiff eira mwy".

Coel gyffredin arall gydag eira yw na fydd yn peidio'n llwyr nes bydd yr holl "esgyrn eira" wedi clirio oddi ar y llechweddau ac o gysgod gwrych.

Mae'n ddywediad cyffredin mai Disgwyl mwy mae'r rhimynnau hyn ac mae Twm Elias yn dyfynnu dywediad o Geredigion a Maldwyn sy'n mynegi hynny yn dwt iawn:

"Eira call yn aros am y llall" ac yn ardal Llanrug ger Caernarfon daeth o hyd i'r dywediad mai eira yw'r esgyrn hyn sy'n "aros i'w fam - neu ei nain - ddŵad i'w nôl".

A choel a ddylai fod o ddiddordeb arbennig iawn i ni dros y dyddiau nesaf yw un o Borthcawl; "Os yw'r ddaear wedi rhewi cyn daw eira, dywedir: 'mae'r eira wedi gwneud ei wely ac fe erys yn hir'."

Felly byddwch yn barod amdani yn enwedig o gofio'r hen ddywediad bod eira cyn calan gaeaf yn erthylu'r gaeaf.

  • Cyhoeddir Am y Tywydd - Dywediadau, rhigymau a choelion gan Wasg Carreg Gwalch. £12.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.