Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cymru a'r Arfordir Haearn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:29, Dydd Sul, 7 Chwefror 2010

Bydd arddangosfa yn dangos cysylltiad rhyfeddol rhwng diwydiant glo Cymru a gwaith haearn a dur Trignac a gwaith adeiladu llongau St Nazaire yn Llydaw yn agor am hanner awr wedi saith nos Fawrth, Mawrth 2, ym Mhontypridd.

Gwyn Griffiths, arbenigwr ar hanes Llydaw a'i phobl, dynnodd fy sylw at gysylltiadau hynod ddiddorol yn ymwneud â dyn o'r enw John Nixon yn allforio glo o Gwm Cynon o tua 1845 ymlaen i'w ddefnyddio mewn purfeydd siwgr yn Nantes, i'r gweithfeydd haearn a dur yn Trignac - cymuned sy'n ffinio a St Nazaire - a darparu tanwydd hefyd i lynges Ffrainc i gyd.

Cysylltiad diddorol arall oedd cyrch a elwir yn Operation Chariot ac meddai Gwyn:

"Yn 1942, un gofid mawr gan Brydain oedd y byddai'r llong ryfel Almaenig, y Tirpitz, yn llwyddo i fynd allan i Fôr Iwerydd, a byddai'r Almaenwyr yn defnyddio'r Doc Normandie yn St Nazaire i'w hatgyweirio.

"Ni lwyddodd y Tirpitz i ddod allan o Fôr y Gogledd fel mae'n digwydd. Penderfynwyd dinistrio'r Doc Normandie, a gwnaed hynny ar Fawrth 28, 1942, drwy hwylio llong o'r enw Campbeltown yn llawn ffrwydron yn erbyn gatiau'r doc a chwythu'r cwbwl lan.

"Dyn o Gaerdydd, Capten W.H.Pritchard o'r Royal Engineers oedd un o ddau gynlluniodd y cyrch a chafwyd dummy run yn nociau'r Barri.

"Gwnaed ffilm am y cyrch Attack on the Iron Coast.er na chydnabyddir mai Llydaw oedd y lle na dewrder y Llydawiaid yn cuddio'r comandos oedd ar y llong ac a lwyddodd i ddianc.

"O'r 611 oedd ar y llong lladdwyd 144. Dihangodd rhai a chymerwyd y rhan fwyaf yn garcharorion rhyfel.

"Un arall o arwyr y cyrch oedd Michael Wynn, seithfed barwn Niwbwrch, a garcharwyd yn Colditz.

"Gwnaeth dewrder y Llydawiaid argraff fawr ar Churchill a de Gaulle a bu hyn yn bwynt bargeinio pwysig i de Gaulle weddill y rhyfel.

"Yr oedd gan de Gaulle feddwl uchel o'r Llydawiaid, oherwydd hyn."

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.