Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yn gryno yn Gymraeg

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:28, Dydd Iau, 18 Chwefror 2010

Gyda'r newyddion am ei farwolaeth debygol tybed faint ohonoch aeth i chwilio neithiwr oedd yna rifyn o'r Reader's Digest yn y tÅ·.

Yr oedd pecyn acw a'r hynaf ohonyn nhw yn dyddio Ionawr 1948 ac yn fwy diolwg ei ddiwyg na'r rhaid rydym ni'n gyfarwydd â hwy heddiw.

Swllt a thair ceiniog oedd o - swllt yn cyfateb i'n pisyn pum ceiniog ni heddiw - a nodyn ar ei glawr mai dyma wythfed blynedd ar hugain ei gyhoeddi.

Arwydd o oes oesrwydd y cylchgrawn yw bodolaeth eitemau sy'n parhau yn rhan o'r cylchgrawnheddiw fel Laughter, the Best Medicine, It Pays to Increase Your Word Power, Life's Like That; Quotable Quotes a'r difyrion gwaelod dalen hynny sydd yr unig bethau mae rhai pobl yn eu darllen ynddo.

Tebyg at ei debyg

Y brif erthygl oedd Where the U.S. Stands on Atomic Energy.

Yn GymraegOnd o fwy o ddiddordeb na'r rhifyn trigain ac un oed hwn oedd pentwr o'r Reader's Digest Cymraeg yr oeddwn i wedi eu cadw efo nhw.

Fel sawl cylchgrawn Cymraeg arall oes fer fu i Y Crynhoad fel yr oedd yn cael ei alw. Cyhopeddwyd y rhifyn cyntaf Hydref 1949. Ei bris oedd swllt a chwech a'r bwriad oedd iddo ymddangos yn ddeufisol.

Cynhwysai gasgliad o eitemau a ymddangosodd mewn cyhoediadau eraill neu a ddarlledwyd - weithiau'n gyflawn, weithiau wedi eu crynhoi.

Fel hyn mae'r golygydd, Iorwerth Jones yn cyfiawnhau cyhoeddi'r Crynhoad:

"Dichon y dywaid rhai fod gennym yn barod ddigon, onid gormod, o gyfnodolion Cymraeg. Tybiwn fod nifer y cyfnodolion a gyhoeddir yn yr hen iaith yn ddadl gref o blaid cyhoeddi'r Digest."

Hynny yw, ei ddiben yw gogri'r cyfraniadau gorau yn yr amryfal gylchgronau hyn ar gyfer pobl sydd un ai yn rhy brysur neu heb yr awydd i ddarllen y lleill i gyd.

Gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Ystalyfera oedd Iorwerth Jones a chyhoeddodd yr hen Wasg y Brython 22 o rifynnau o'r Crynhoad rhwng 1951 a 1955 gydag R Leonard Hughes yn cael ei benodi'n gyd olygydd ddiwedd 1951.

Trosglwyddwyd yr awenau i Dewi ac Olwen Samuel, Glynebwy, ar gyfer y pedwar rhifyn olaf a rhoddwyd y bai ar gostau'n codi a darllenwyr yn gostwng am ei farwolaeth Ionawr 1955.

Dilynai'n glos batrwm y Digest Saesneg o ddiwyg y clawr i'w gynnwys gyda phytiau fel Hiwmor y Wasg Gymreig a Parsel o Lyfrau.

Ymhlith erthyglau y rhifyn cyntaf roedd erthygl o'r Herald Cymraeg gan E Tegla Davies; talfyriad o erthygl gan D Tecwyn Lloyd yn Y Cymro am Barletta, de'r Eidal; erthygl gan Saunders Lewis o'r Faner, erthygl am faco gan O E Roberts; y corgi gan Rowland Johns, Geiriau Cymraeg Sir Fynwy gan Olwen M Samuel; Rheoli ein Greddfau Rhywiol (talfyrrwyd o Sylfeini Moesoldeb) gan Y Dr T Alun Griffiths Y.H.; a rhyw William George yn sgrifennu am "Dafydd fy mrawd a Chymru" ac yn y blaen

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.