Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O mai God - gweddïwn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:39, Dydd Mawrth, 23 Mawrth 2010

Awgrymodd cyfaill mai'r agosaf mae llawer o bobl yn dod at weddïo y dyddiau hyn yw ebychu "Oh! My God! pan fo rhywbeth yn peri syndod iddyn nhw.

Dydw i ddim yn siwr sut mae hynny'n sgwario â Huw Ceredig yn cyfaddef ar y radio dro'n ôl ei fod ef er wedi cefnu ar grefydd yn dal i ddweud ei bader bob nos.

"Dwi'n ystyried fy hun yn ddyn crefyddol. Dwi'n dweud fy mhader bob nos - dwi ddim yn siŵr at bwy . . ." medda fo mewn sgwrs gyda Dewi Llwyd ar Radio Cymru.

Hel rhyw feddyliau fel yna oeddwn i o glywed am lyfr newydd sydd wedi ei gyhoeddi, Mil a Mwy o Weddïau wedi eu casglu gan Edwin C Lewis - awdur llyfr arall o'r enw Mil a Mwy o Ddyfyniadau a gyhoeddwyd dair blynedd yn ôl.

Wrth sôn am ei lyfrau ar y rhaglen radio Bwrw Golwg echdoe dyfynnodd y Dr Lewis un o'i hoff weddïau ef o blith y mil a mwy.

Un gan y diweddar Cyril Williams o adran Diwinyddiaeth Prifysgol Llambed.

Gweddi daclus o bymtheg gair - a hynny'n rhinwedd ynddo'i hun:

"O ran y gwelwn o Arglwydd; maddau i ni am ystyried mai'r rhan yw'r cyfan."

Pa un yw eich hoff weddi chi tybed? Anfonwch air.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.