Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bardd mewn byd gyd a'r bin

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 13:48, Dydd Gwener, 16 Ebrill 2010

Fel hyn mae Twm Morys yn cychwyn ei golofn farddol yn y bore ma:

"Daeth neges oddi wrth LLEUCU LLWYD fel hyn: Anfonais fy nghynigion ar greu llinellau llusg nôl ar 21ain o Fawrth. Tybed a wnaethoch eu derbyn?

"Rwan anodd iawn ydi gwybod, heb gymorth rhyw wynebau bychain crwn yn gwenu neu'n gwgu, sut yn union y dylid cymryd e-bost tebyg i hwn," meddai Twm.

"Ydi LLEUCU yn ei dagrau? Ydi hi'n flin iawn? Mae ganddi hawl i fod.

"Rwyf wedi cael i'w llinellau seithsill yn y bin yng nghanol nialwch a rhwng HOTEL CHOCOLAT: Have you sen our Easter bunny? a VILDAN: çaresiz değilsiniz.

"Heliwyd rhain i'r bin heb eu hagor, ac mi aeth llinellau LLEUCU LLWYD i'w canlyn mae'n rhaid - 'collateral damage'!" meddai Twm.

Nid yn aml y gwelir rhywun yn syrthio mor barod ar ei fai.

Wedi'r cyfan, mor hawdd fyddai hi i fod wedi beio'r Post am golli'r ohebiaeth. Nawr byddwch onest, oni fyddech chi'n cael eich temtio i wneud hynny dan yr un amgylchiadau? Synnwn i ddim, ichi fod wedi gwneud. Fwy nag unwaith.

Ond nid Twm. Rhaid codi'n het iddo fo am fod yn ddyn ac yn fardd mor onest ac yn esiampl mor dda i'r plant y mae o'n fardd iddyn nhw ar hyn o bryd.

Rwy'n siŵr y bydd Lleucu'n barod iawn i faddau iddo am roi ei llinellau yn y bin ac yn fwy na dim, am eu hadfer oddi yno.

A diolchwn ninnau am y cip diddorol ar fywyd bob dydd Prifardd.

Testun cerdd yn fanna.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.