Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tegwch i bawb

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:52, Dydd Llun, 5 Ebrill 2010

Bu canolfan arddio gyfagos yn arddangos yn ystod y dyddiau'n arwain at y Pasg arwydd digon blin ei natur.

Rhybuddio yr oedd o na fyddai'r ganolfan yn agored Sul y Pasg oherwydd "deddfwriaeth wirion" sy'n rheoli'r pethau hyn.

Y geiriau ar yr arwydd uniaith Saesneg oedd, "Ridiculous Government legislation" a gyhuddwyd o orfodi'r ganolfan o gadw'i drysau ynghau y Sul arbennig hwn.

Mae'n agored Sul, gŵyl a gwaith weddill y flwyddyn.

Gwelwyd fersiynau o'r un arwyddion mewn sawl lle arall hefyd gan fod yr un ddeddfwriaeth yn effeithio ar siopau mawrion hefyd a dyna pham nad oedd yr un archgfarchnad yn agored ddoe yn amrywio o B&Q i Tesco.

Gellir maddau i bobl am feddwl bod y ddeddfwriaeth rywfaint yn od gan fod pob siop gornel a'i drysau'n agored led y pen ac yn gwerthu llawer o'r un nwyddau â'r siopau mawrion.

"Dim rhyfedd," meddai cymydog, fod y canolfannau garddio a'r lleill wedi buddsoddi yn yr arwyddion cecrus â welais i.

Doeddwn i ddim mor eangfrydig fodd bynnag.
Sul y Pasg oedd hwn, dradwy'r Groglith. Gŵyl flynyddol bwysicaf y ffydd Gristnogol a hynny mewn gwlad sy'n dal i alw ei hun yn wlad Gristnogol er gwaethaf sawl tystiolaeth i'r gwrthwyneb.

O'r herwydd mi fyddwn i'n ystyried yr arwyddion yn hyfrdra haerllug ar ran pobl sydd wedi ennill yr hawl i halogi pob Sul arall yn ddiwahân weddill y flwyddyn a gwneud ceiniog reit ddel o hynny.

Yn bersonol mi fyddwn i, felly, yn debycach o gydymdeimlo â, ac i gefnogi, arwydd yn galw am gau popeth arall hefyd - os mai tegwch yw sail eu dadl.

Beth amdano chi?

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.