Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Am ddweud - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:56, Dydd Gwener, 7 Mai 2010

Ar ddiwedd wythnos sydd yn dirwyn i ben mewn ansicrwydd gwleidyddol cyfle i ail flasu rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr â'r .

  • Mi fyswn i'n fotio i Bin Laden cyn fyswn i'n fotio i chdi - Etholwr wrth AS Arfon, Hywel Williams, yn canfasio yng Ngharmel yn ôl 'Golwg'.
  • Nid lle'r Wasg yw rhoi cyngor i bwy mae bwrw pleidlais. Os nad oes gennym farn ar beth sy'n deg i bawb, yna prin ein bod yn ddinasyddion cydwybodol - John Gruffydd Jones, Golygydd 'Y Goleuad'.
  • Yr ydw i eisiau gweld mwy o bobl go iawn yn sefyll etholiad - nid o fyd artiffisial bybl San Steffan yn unig - Polly Mackenzie o Lanfair ym Muallt, pennaeth polisi strategol y Rhyddfrydwyr Cymdeithasol.
  • Mae angen i nifer ohonyn nhw gael gwersi siarad cyhoeddus - Hafina Clwyd yn y 'Western Mail' yn cwyno am safon ymgeiswyr seneddol. "Yr wyf wedi dod ar draws rhai gwan ddychrynllyd," meddai.
  • Mae'n ddigon hawdd beio'r gwleidyddion am ddiffyg safon a sylwedd y trafod yn ystod yr etholiad cyffredinol yma. Ond hyd gwela i mae llawn cymaint o fai ar y cyfryngau, gyda'u hobsesiwn am sarhau'r gwylwyr yn y ffyrdd mwya hurt ac arwynebol - Lefi Gruffudd yng nghylchgrawn dydd Sadwrn y 'Western Mail'.
  • Rhaid imi ddweud imi gael fy synnu. Roeddwn i'n meddwl ein bod yn ennill - Lembit Opik ar ôl colli ym Maldwyn.
  • Mae'n anodd iawn deall gwleidyddiaeth Ynys Môn yn dydi? - Dafydd Iwan neithiwr.
  • Dydw i'n gwybod dim amdano. Dydw i ddim wedi hyd yn oed feddwl amdano. Does gen i ddim diddordeb o gwbl yn y pwnc felly allai ddim dweud llawer amdano - Leigh Halfpenny, y chwaraewr rygbi yn ymateb i gwestiwn gan y Wales on Sunday am yr Etholiad Cyffredinol.
  • Lloyd George; er mwyn gofyn os oedd e'n nabod fy nhad - Vaughan Roderick, Gohebydd Materion Cymreig y Ö÷²¥´óÐã, yn ateb cwestiwn 'Golwg' pa wleidydd o'r gorffennol hoffai gwrdd.
  • Rhaid inni redeg 90 milltir yr awr i sefyll yn llonydd - Mike Callus, prifathro Ysgol Babyddol Sant Joseph yn gorfod dygymod â chyfyngiadau ariannol.
  • Tic-toc. Tic-toc. Glywch chi'r cloc yn tician? - Neges Ewyllys Da yr Urdd yn rhybuddio bod yr amser yn prinhau i fynd i'r afael â chynhesu bydeang.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.