Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cega - dyfyniadau dethol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 06:00, Dydd Gwener, 14 Mai 2010

Steddfod, gwleidyddiaeth, awyrennu a gyrru gwallgof - ail flasu'r wythnos trwy gofio rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.

  • Fe wnaethom ni ddod i'r penderfyniad na fyddai'n addas - Rodney Berman, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn dweud na fyddai croeso i'r Eisteddfod genedlaethol ddychwelyd i Gaeau Pontcanna yn y Brifddinas.
  • Allwn ni fwrw 'mlaen? Mae gen i gyfweliad yn y ganolfan waith mewn hanner awr - Lembit Opik ar 'Have I Got News For You'; ond dywedodd Paul Merton iddyn nhw ffonio i ganslo!
  • Mae'n boblogaidd efo pobl fusnes, pensiynwyr, myfyrwyr a thwristiaid - Ieuan Wyn Jones AC yn cyfiawnhau noddi gwasanaeth awyr rhwng Sir Fôn a Chaerdydd.
  • Mae nifer o'r rhai a welsom yn methu egluro eu polisïau am nad yw eu Cymraeg yn ddigon llithrig. Pam felly gofyn iddyn nhw . . . - Hafina Clwyd yn anhapus gyda gwleidyddion a holwyd ar y cyfryngau.
  • Mae hon yn foment arwyddocaol a phryderus i Gymru - Elfyn Llwyd AS yn dilyn y cyhoeddiad am y Llywodraeth glymblaid.
  • Yn y lle cyntaf, mae'n deg dweud nad ydym yn chwilio am wrthdaro gyda'r weinyddiaeth newydd - Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.
  • Cafodd Martin Veens, dreifar lori o'r Iseldiroedd, wyth wythnos o garchar am fwyta sbageti allan o sosban tra'n dreifio drwy ogledd Cymru yn 2007. Yr oedd yn defnyddio ei bengliniau i lywio'r lori ar hyd yr A55 - adroddiad am yrwyr anghyfrifol yn y 'Daily Post'.
  • Pan ddysgwch chi y gallwch wneud ffŵl ohonoch eich hun yr ydych yn mynd i fod yn aruthrol -Sheila Hancock yn galw am fwy o gomedi gan Sophie Evans o Donypandy ar sioe 'Over the rainbow'.
  • Ar yr olwg gyntaf mae'n neis . . . ond o edrych arni ychydig mwy mae fel rhywbeth fyddech chi'n ei weld adeg y Nadolig. Mae'n edrych fel un o'r darnau arian siocled yna - Jamie Baulch am y fedal a gyflwynwyd iddo'r wythnos hon.
  • Mae'n ymddangos bod pawb â diddordeb ynddom ni ac yr ydw i'n falch i fod yn rhan o hynny - aelod o'r Gwarchodlu Cymreig a fu'n gorymdeithio am y tro cyntaf erioed yn y Sgwâr Coch, Moscow.
  • Yr oedd fel pe byddai wedi tyfu o fod yn fachgen i fod yn ddyn. Roeddwn i'n meddwl, "Nid Kristian yw hwnna," ac yr oedd yn rhaid imi ddal i edrych arno i fyny ac i lawr - Emily Tucker,Sioned yn 'Pobol y Cwm', yn ail gyfarfod Kristian Phillips, y chwaraewr rygbi, wedi dwy flynedd. Maen nhw'n awr yn gariadon.
  • Gwnaeth fy nghanser imi werthfawrogi yr hyn sydd gen i achos bu bron i'r cyfan gael ei gymryd oddi arnaf - John Hartson yn y 'Wales on Sunday'.

  • gwelais y golau oren 'ma a meddwl beth oedd hwnna.Y rhan fwyaf o nosweithiau rydw i'n gweld hofrennydd yr heddlu uwchben Baglan. Cythrais am y camera a dechrau ffilmio [ond] allwn i ddim sŵmio achos bod fy llaw yn ysgwyd - Nigel Jones yn gweld UFO dros Fae Abertawe.
  • Maen nhw'n mynd i gael eu hailgylchu - Yr awdur Rachel Trezise o Gwmparc y Rhondda am ei nofel newydd y bu'n rhaid malu 100,000 o gopïau ohoni oherwydd i enw band ynddi ymddangos nid fel 'The Boobs' ond fel 'Boobs, The'.

  • Ö÷²¥´óÐã iD

    Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

    Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.