Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cardis call

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:00, Dydd Mercher, 2 Mehefin 2010

Nawr te, y busnes ma bod y Cardis yn dyn gyda'u harian.

Rhoddwyd clec i'r chwedl honno gan yr aelod o'r Cynulliad Elin Jones a oedd yn llwydd y dydd yn yr Eisteddfod ddydd Mawrth:

"Mae hon yn flwyddyn bwysig iawn i Geredigion," meddai. "Noddi Eisteddfod yr Urdd, noddi Sioe y Cardis yn y Royal Welsh hefyd a dwi'n gobeithio ein bod ni wedi chwalu am byth yr honiad bod y Cardis yn dyn gyda'u harian.

"Dyw'r Cardis erioed wedi bod yn dyn gyda'u harian ond mae'r Cardis erioed wedi bod yn effeithiol gyda'u harian ac os oes na achos da i wario arno yna fe fydd y Cardis yn gwario arno fe ond os nad yw e'n achos da yna wnaiff y Cardis ddim boddran â rhoi arian ar gyfer hynny.

"Felly effeithiol gyda'n harian ydym ni yma, nid tyn a'n harian."

Dyna'r mater bach yna wedi'i glirio.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.