Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dwedwch eto . . . dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:03, Dydd Gwener, 18 Mehefin 2010

Cusan ci, cadair eisteddfod, refferendwm Cynlluniad, bwydo bajars - rhai o'r pethau gafodd sylw yn y wasg yng Nghymru ac ar y cyfryngau ers dydd Gwener diwethaf.

Tusw o ddyfyniadau - a gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr a'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.

  • Dwi'n credu y bydd pobl yn dweud fod angen refferendwm ar adeg pan mae modd sicrhau fod pobl yn pleidleisio a bod yna ddigon o amser i drafod y pwnc - Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.
  • Mae pleidiau'r glymblaid yn parhau yn ymrwymedig i gytundeb Cymru'n Un i ymgyrchu dros ganlyniadau llwyddiannus yn y refferendwm - Llefarydd Llywodraeth y Cynulliad.
  • Er bod y cynllunydd wedi defnyddio cysyniad sy'n adnabyddus i Eisteddfodwyr mae'r Gadair ei hun yn anghyffredin - Richard Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy wrth dderbyn cadair Eisteddfod 2010.
  • Rwy'n eu gwisgo drwy'r flwyddyn ond yn teimlo'n llai sili yn yr haf - Rhodri Llywelyn yn enwi siorts fel un o dri o angenrheidiau'r haf yn 'Y Cymro'. (Hufel iâ fanila a BBQ yw'r ddau arall).
  • Dan gantel isel y wên
    mae gwae. Mae mwg ei awen?
    Mae pianydd? Mae cwmpeini?
    Mae iaith? Mae Blws? Ac mae hi,
    y ferch hardd? Lle mae barddas,
    a holl fêr ei linell fas?
    - Allan o gywydd coffa i Iwan Llwyd gan Karen Owen a enillodd iddi het y prifardd yn Ymryson Gŵyl Maldwyn yn y Cann Office.
  • Maen nhw'r un fath â chlytiau. Mae eisiau eu newid yn aml ac am yr un rheswm - Twm Morys am Wleidyddion yn rhifyn Mehefin o WA-w!
  • Y gerddoriaeth wnaeth fy nghadw ' fynd. Gyda cherddoriaeth rhaid ichi fynd yn ôl i'ch gwreiddiau; rhaid ichi wneud cerddoriaeth o'r galon. Felly, bu'n rhaid i mi fynd i guddio - Duffy yn egluro yn y 'Wales on Sunday' ei henciliad diweddar o olwg y cyhoedd.
  • Fedrwch chi ddim cael merch maint mawr yn ennill; byddai'n gwneud y peth yn jôc - Julien Macdonald o Ferthyr yn gwylltio rhai pobl trwy ddweud mai'r modelau main fydd yn rhagori ar 'Britain's Next Top Model'.
  • Rhoddodd ei thafod yn fy ngheg ac roeddwn i'n eitha hoffi'r peth. Ac fe'i rhoddodd yn fy nghlust ac mi feddyliais fod hynny'n wirioneddol neis - Joanna 'Stacey' Page yn cyfaddef iddi fwynhau cael ei chusanu gan gi pan yn ffilmio ar gyfer 'My Pet Shame'.
  • Mae Capten Scott a'i stori yn rhan o hanes Caerdydd am byth - Arglwydd Faer Caerdydd, Keith Hyde, yn cofio ymadawiad Scott of the Antarctic o Gaerdydd yn 1910.
  • Un ffordd yw bwydo'r moch daear fel na fydd raid iddyn nhw dyrchu mewn gardd i gael mwydod a bwyd arall - un o gynghorion Keith Hogben o'r RSPCA i bobl y mae moch daear yn difetha eu gerddi.
  • Yn yr ysgol roedd sgwennu yn anodd, roedd Saesneg yn anodd, roedd màths yn anodd, ond roeddwn i'n grêt am ginio - Henry 'The Fonz' Winkler yn trafod ei anawsterau â dislecsia gyda disgyblion Ysgol Iolo Morganwg y Bont-faen.


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.