Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pebyll y cyfarfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:27, Dydd Llun, 26 Gorffennaf 2010

Bydd angen cofio bod dwy Babell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod yng Nglynebwy eleni.
Fel Pabell y Cymdeithasau 1 a Pabell y Cymdeithasau 2 y maen nhw'n cael eu hadnabod ar hyn o bryd - ond fe fu yna gystadleuaeth i gael enw iddyn nhw.

Ond yng nghyfarfod diwethaf Cyngor yr Eisteddfod ddydd cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn nesaf dywedodd Prif Weithredwr y Brifwyl, Elfed Roberts, na dderbyniwyd enwau a ystyriwyd yn dderbyniol.

Yn y cyfarfod hwnnw cynigiodd aelod o'r Cyngor, Eifion Lloyd Jones, eu henwi i goffau dau o selogion yr Eisteddfod a fu farw yn ddiweddar, Hywel Teifi Edwards a Dafydd Whittall.

Pabell Hywel a Phabell Dafydd oedd ei awgrym ef - ond chafodd yr awgrym ddim rhyw dderbyniad brwd iawn a dywedwyd nad oedd digon o amser i weithredu cyn Glynebwy beth bynnag. Fel Un a Dwy, felly, yr adnabyddir y pebyll am eleni o leiaf.

Ond, am wn i, does dim yn rhwystro neb gynnig enwau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn Wrecsam.

Y drwg, mae'n debyg, wrth feddwl eu henwi ar ôl pobl yw bod cymaint o rai haeddiannol y gellid eu hystyried. Wrth gofio Hywel Teifi a Dafydd Whittall er enghraifft mae rhywun yn cofio hefyd y golled o golli Dic Jones, Dic yr Hendre, hefyd.

Tybed fyddai rhywun yn cael mwy o lwc yn meddwl am barau hanesyddol neu ddaearyddol go adnabyddus.

Awgrymodd cyfaill Sodom a Gomora - rwan dyna be fyddai'n tynnu pobl.. Wel, rhai pobol efallai.

Neu beth am Babell y Cwn a Phabell y Brain?

Neu babell y Gwynt a Phabelly Taranau . . .

Croesewir awgrymiadau . . .callach os bosib . . .


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.