Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar ein pump

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:33, Dydd Iau, 5 Awst 2010

Mae un o ryfeddodau'r Maes wedi ei guddio mewn ystafell dywyll yn hen swyddfeydd mawreddog Y Gweithfeydd.

Ac oni bai bod rhywun arall yr oeddwn wedi trefnu i'w gyfarfod yno yn hwyr yn cyrraedd mi fyddwn wedi mynd a'i golli.

Adeiladau'r hen waith dur
"Hoffech chi ddisgwyl yn y Sinema 5D," meddai'r ferch ifanc a'm tywys i'r tywyllwch.

"Mae'n dibynnu faint ydych chi eisiau wlychu, lle da'ch chi'n mynd i eistedd," medda hi wedyn.

"Rydych chi'n gwlychu mwy yn y ffrynt,"eglurodd.

|"Be? Gwlychu mynd yn wlyb?"

"O ie," meddai.

Ffwrdd a mi i'r rhes gefn, felly, gyda'r sbectol arbennig ydych yn ei chael i weld y ffilm mewn 3D.

Ond yr oedd dipyn mwy na dyfnder llun a chyllyll a chleddyfau yn cael eu hyrddio atoch o'r sgrin yn cael ei gynnig y tro hwn gan fod dwy D arall iddo.

Wrth i long môr-ladron yn y ffilm hwylio teimlwn awel y môr ar ein hwynebau a phan gaiff ei sgytian gan y tonnau felly ninnau'r gynulleidfa, yn cael ei hysgwyd yn ein seddau.

Ac wrth i un o'r cymeriadau syrthio i' dŵr yr ydym ninnau'n cael ein gwlychu gan y diferion.

O'n cwmpas yn yr awyr mae swigod gwynt!

A phan fo drewdod mae arogl ddrwg - wel rwy'n meddwl mai o'r sgrin y deuai hwnnw nid y fi yn eistedd ynddo!

Fyddai neb yn dweud fod y ffilm fer a ddangoswyd yn un arbennig o dda - ond diawch yr oedd yn brofiad gwahanol.

Ac yn gwneud ichi feddwl beth fydd gan y dyfodol i'w gynnig - gwaed ar eich dwylo, bysedd sgyrnog am eich llwnc, dant yn eich gwddf wrth i'r hen Ddraciwla baratoi i'ch sugno.

Ond fe allai ddweud, roedd yn brofiad digon rhyfedd gweld gofalwyr yn sychu'r seddau tamp ar gyfer y gynulleidfa nesaf wrth ichi gerdded allan.

5D? Pum seren allan o bump, ddwedwn i.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.