Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwerth dim

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:58, Dydd Sul, 1 Awst 2010

Profwyd heddiw pa mor hawdd yw hi i werthu rhywbeth i bobl - trwy ei roi am ddim.

Rhannodd Ein Gweinidog Diwylliant Alun Ffred Jones ugain mil o docynnau Eisteddfod dydd Sul am ddim rhwng trigolion Blaenau Gwent - a dyma nhw'n llifo i mewn drwy'r giatiau wrth eu miloedd.

Wrth eu hugain mil mewn gwirionedd gyda 25,097 (mam sengl efo chwech o blant oedd y 7 yna medda nhw i mi) yn ymweld â'r Maes cyn stop tap ddiwedd pnawn.

Nawr mi fedrwn ni ddehongli ffigurau fel leiciwn ni ac fe allai un dehongliad gynnig mai dim ond 5,097 fyddai wedi ymweld a'r Eisteddfod oni bai am haelion Alun Ffred â phwrs y wlad.

Ond lle i fod yn llawen sydd gennym ni heno. Digon i'r diwrnod ei dda ei hun meddai'r Testament Newydd ac fe gawn ni ddechrau poeni fory sut y bydd hi weddill yr wythnos. Faint o Steddfodwyr Ffri ddydd Sul a ddychwel ddydd Llun, Mawrth, Mercher ac yn y blaen pan fydd hi'n costio £16 y pen i droedio'r tir sanctaidd?

Tybed, os am helpu'r tlodion droi'n Steddfotwyr na ellid fod defnyddio pwrs y wlad i ostwng pris mynediad drwy'r wythnos fel y gallai teuluoedd 'difreintiedig', a defnyddio gair mawr yr oes, fedru mynd a dod.

Cwestiwn arall sy'n cael ei ofyn yn barod yn dilyn llwyddiant y Sul yw; Sut fydd hi yn Wrecsam y flwyddyn nesaf?

Ateb Prif Weithredwr yr Eisteddfod i hynny oedd mai mater i'r Gweinidog Diwylliant fydd hynny ond y bydd yr Eisteddfod yn dadansoddi yr hyn ddigwyddodd eleni ac yn llunio adroddiad.

Yn y cyfamser, fe ddywedwn i mai surbychni llwyr fyddai'n gwrthod llawenhau i gymaint o drigolion Blaenau Gwent fedru ymweld â'u heisteddfod gyntaf.
A chael cryn fwynhad o grwydro'r maes yn ôl sawl un ohonyn nhw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:36 ar 2 Awst 2010, Rhys ysgrifennodd:

    O le ddaeth y ffigwr o 25,097 am y Sul? Yn ôl y Western Mail heddiw, dim ond ychydig o dan 18,000 ddaeth dros y penwythnos.

  • 2. Am 13:46 ar 2 Awst 2010, Glyn Evans Author Profile Page ysgrifennodd:

    Dyna'r nifer swyddogol gyhoeddwyd gan yr Eisteddfod - ond fy nyfaliad i oedd y fam sengl!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.