Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia 'Nglynebwy - Sul

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 16:02, Dydd Llun, 2 Awst 2010

Mae Nia Lloyd Jones Radio Cymru yn sibrwd o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent gydol yr wythnos.

Dyma ei hail gyfraniad.

Roedd hi'n ddiwrnod prysur iawn ar y maes heddiw - gan fod cynifer o bobl lleol wedi cael tocynnau i ddod draw i'r Eisteddfod, ond braidd yn denau oedd hi gefn llwyfan o ran cystadleuwyr.

Ta waeth, fe ddechreuodd y pnawn yn addawol yn sŵn Bechgyn Bro Taf dan arweiniad Owen Saer. Un o'r aelodau ydi Ianto Phillips - sydd hefyd yn aelod o'r grŵp Nos Sadwrn Bach ac mae ganddo fo wythnos brysur o'i flaen rhwng cystadlu hefo'r côr a pherfformio hefo'r grŵp.

Ianto

Dim ond dau gôr oedd yn cystadlu heddiw - a'r ail i berfformio oedd Bois Ysgol Gerdd Ceredigion dan arweiniad Islwyn Evans.

Cyn mynd ar y llwyfan - roedd un o'r aelodau - Gareth wrthi'n tywallt dŵr o botel ar ei sgidiau - i'w glanhau cyn mynd ar y llwyfan a dyma fi'n digwydd sylwi ar y sanau rygbi coch oedd ganddo. Llachar a dweud y lleiaf!

Ar ôl iddyn nhw berfformio fe ges i air hefo Gethin Lewis a Huw Bryant.

Gethin, Huw a fi

Roedd Gethin yn aelod o'r côr enillodd y llynedd sef Cywair - unwaith eto dan arweiniad Islwyn Evans, ac yn mynd am y dwbl eleni.

Bob tro y byddaf yn gweld Huw Bryant - dw i'n ei gofio fo yn Eisteddfod Dinbych yn cystadlu ar yr adroddiad digri - ac yntau yn 'fandages' I gyd!

Mae'n ymddangos nad ydi'r gystadleuaeth honno yn bod bellach.....sydd yn biti garw.(llun y ddau yn fy nghodi!)

Un o'r cystadleuwyr ar yr unawd piano heddiw oedd Gareth Hughes o Gaerdydd.

Gareth

Yn ogystal a pherfformio gwaith gan Rachmaninoff a Debussy, fe berfformiodd o ddarn o'i waith ei hun. Mae Gareth a'i fryd ar fod yn gyfansoddwr yn ogystal â pherfformiwr a phwy a ŵyr ella bydd pianyddion y dyfodol yn perfformio ei waith o. Hogyn clên iawn - yr unig broblem - mae o'n cefnogi Chelsea.

A finnau wedi gorffen yng nghefn y llwyfan ac ar fy ffordd adref, mi ges i fy nghornelu gan griw y rhaglen deledu Gofod, a dyna lle fues i wedyn yn canu carioci ar y maes.

Wna i ddim dweud pa gân oedd hi ond digon ydi dweud bod na gysylltiad rhyngddi a'r Eisteddfod . . .

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.