Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Orig gydag O M

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Gwyn Griffiths | 07:55, Dydd Llun, 2 Awst 2010

Cyflwynwyd portread annwyl o O. M. Lloyd (1920-1980) gan ei blant, Gwyn Lloyd, Rhys Llwyd a Nest Owen yn Y Babell Lên brynhawn ddoe (Dydd Sul).

Yr oedd O.M. yn un o'r lleisiau cyfoethog hynny a gofiwn yn nyddiau Ymryson y Beirdd ar y radio yn y pum a'r chwe degau. Bu'n tafoli ymdrechion y beirdd yn Y Babell Lên wedi hynny.

Llun o O M Lloyd yn Rhaglen y Dydd

Stori dda oedd honno gan Dafydd Islwyn, Cadeirydd y Pwyllgor Llên, am ei feddyg yn ei wahardd rhag gwneud dim â'r gystadleuaeth yn Eisteddfod Aberteifi am yr ofnai y byddai'r cynnwrf yn ormod iddo!

O. M. Lloyd, Dolgellau, y Gweinidog Annibynnol - ymhob ystyr - oedd e i lawer ohonom. Ond "hogyn o Stiniog oedd e, cenedlaetholwr, heddychwr, sosialydd ac awdur colofn tudalen flaen Y Dydd, papur wythnosol Dolgellau.

Yr oedd yn chwaraewr pêl-droed arbennig o dda, yn ogystal a thenis, criced, biliards a snwcer.

Ond uwchlaw popeth yr oedd yn fardd â nyddodd ei englyn cyntaf pan oedd ond 16 oed. Bardd cynhyrchiol iawn, hefyd, oherwydd yr oedd yn fardd a sgrifennodd lawer o englynion coffa - bardd cymdeithasol.

Yr oedd y gair printiedig yn bwysig iddo. Yn ogystal â'i golofn wythnosol - O Gader Idris - yn Y Dydd cadwodd ddyddiadur o'r Tridegau hyd ddiwedd ei oes a chadwodd ei gerddi i gyd.

Difyr clywed fel yr enillodd ddwy cadair eisteddfodol gyda'r un awdl, a chadair arall gyda chywydd o'r un awdl! Dim yn anarferol yn hynna, ond nid pob bardd fyddai'n cydnabod hynny.

Cafodd Nest, Rhys a Gwyn gloddfa o ddeunydd parod ar gyfer eu rhaglen, heb sôn am gyfweliad teledu ac un bregeth radio a draddododd eu tad.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.