Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mewn gair - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:42, Dydd Gwener, 17 Medi 2010

Brian Flynn, Gavin Henson, merch Glyndwr a llythyrau hwyr - rhai o bobl a phynciau'r wythnos yng ngeiriau pobl eraill yn ein detholiad wythnosol o ddyfyniadau.

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Golygodd y tarfu ar wasanaethau awyr y Deyrnas Unedig oherwydd y lludw o'r llosgfynydd yng Ngwlad yr Ia yn ystod y gwanwyn i'r Post Brenhinol fethu a chyrraedd ei nod o 93% yn ystod y cyfnod hwn - Tony Baxter o'r Post Brenhinol yn egluro pam na chyrhaeddodd llythyrau dosbarth cyntaf rannau o Gymru mewn pryd yn ystod tri mis cyntaf 2010 .
  • Rydym wedi adfer yr hen enw - . . . Roedd y rhan fwyaf ohonoch yn dal i alw'r Daily Post Cymraeg yn Herald Cymraeg felly roedd synnwyr cyffredin yn dweud mai dyna'r enw gorau iddo - Nodyn ar ddalennau Cymraeg y 'Daily Post'.
  • Dwi ddim yn trio bod yn ffasiynol achos does na ddim pwynt - mae ffasiwn yn mynd allan o ffasiwn. Dwi ddim yn rhan o unrhyw symudiad chwaith. Ymateb i'r hyn sy'n dod i mi'n fewnol ydw i - Yr arlunydd a'r cerflunydd John Meirion Morris sydd ag arddangosfa gyda Wil Roberts yn Oriel Môn.
  • [Y] gwahaniaeth rhwng pregeth sâl ac un dda, weithiau, yw faint a beth mae pregethwr wedi ei ddarllen, hynny yw, faint mae wedi gwrando ar rai a all fod yn fwy gwybodus a deallus nag ef ei hun - Vivian Jones yn 'Y Tyst'.
  • Mae gen i lun o chwarelwr yn crogi ar graig uwchben y lle tân, a bob tro dwi'n meddwl fod bywyd yn galed, edrychaf ar y llun - a chyfrif fy mendithion - Angharad Tomos yn 'Yr Herald Cymraeg' yn diolch fod y fath waith wedi darfod.
  • Rydw i'n byw i fyny yma [yn Llundain] ac yn gwneud sioe yn y West End ac mae gen i ddilyniant da ar Twitter. Mae'n rhywbeth yr ydw i wedi breuddwydio amdano erioed - Lucie Jones o Bentyrch sydd wedi ei dewis yn 'wyneb newydd' Wonderbra.
  • Rydym yn credu nad yw amryw o ddynion yn teimlo eu bod yn gallu siarad am eu teimladau ac yn hytrach yn ei ddal i mewn ac yn gadael iddo fynd allan o reolaeth - Rachel Kirby-Rider o'r Samariaid yn egluro'r rheswm am ymgyrch sy'n cynnig cymorth i ddynion sy'n ystyried lladd eu hunain.
  • A oes unrhyw arwyddocâd ar benodiad Prif Weithredwr dros S4C sef Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru, y corff sy'n edrych ar ôl yr anghenus a llai ffodus mewn cymdeithas? - Llythyr yn 'Y Cymro' gan Bryan Roberts, Caerdydd.
  • Cafodd y cerflun ei wneud yn wreiddiol i gyfleu dioddefaint menywod a phlant mewn rhyfel yn ogystal ag ysbryd oesol Cymru - Rhian Medi am y cerflun a ail ddadorchuddiwyd yn Llundain i goffau Catrin Glyndwr a'i phlant.
  • Mae'n hen bryd inni weithio'n awr i gael Sycharth yn lle i ymweld ag ef - Yr Archdderwydd, T James Jones.
  • Dyw ei ddawnsio mo'r gorau. Mi wnâi bleidleisio iddo fo - Charlotte Church yn addo ei chefnogaeth i Gavin Henson ar 'Strictly Come Dancing'.
  • Mae llawer o bobl wedi bod yn cwyno ei fod yn stomp llwyr - Maer Talacharn, Roy Thomas, am 'Brown's Hotel' lle'r arferai Dylan Thomas yfed.
  • Pan ydym yn gweld teisen ben-blwydd nid yr eglurhad cemegol a gwyddoniaeth cynhyrchu cacen sy'n gwneud synnwyr. Mae'n gwneud mwy o synnwyr i siarad am y cariad a'r dathliad sy'n deillio o ben-blwydd - Esgob Gregory o Lanelwy yn dadlau nad dehongliad gwyddonol rhai fel Stephen Hawking sy'n bwysig wrth drafod bodolaeth Duw.
  • Flynn yw'r dyn gorau ar gyfer y gwaith - John Hartson yn cymeradwyo dewis Brian Flynn i ofalu am dîm pêl-droed Cymru am y ddwy gêm nesaf - er y byddai'n hoffi'r swydd ei hun!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:05 ar 22 Medi 2010, Gary ysgrifennodd:

    Fy hoff ddyfyniad i o gynhadledd Brian Flynn gyda'r wasg oedd:

    "Mae pob un chwaraewr yn fy adnabod, ac yn gwybod yn iawn beth yw'r rheolau. Y rheol gyntaf yw bod neb yn cael fy nhaclo i yn ystod gemau ymarfer!"

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.