Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pictiwr - o gambyhafio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:39, Dydd Mercher, 8 Medi 2010

Diolch byth am Bethan Gwanas. Dydi hi byth yn mynd i'r pictiwrs ond mae hi'n dweud rhywbeth heddiw sy'n agos iawn at galon y rhai ohonan ni sydd yn mynd.

Yn ei cholofn wythnosol yn y mae Bethan yn datgelu mai uffern iddi hithau hefyd ydi pobol eraill - yn y sinema o leiaf.

Nhw, a'r sŵn maen nhw'n i wneud sy'n ei chadw draw. Y ffaith nad ydyn nhw'n gwybod sut i fyhafio yn y pictiwrs.

Yr ydw i efo hi bob cam o'r ffordd. Dyna pam y bydda i yn mynd i weld ffilmiau mor gynnar yn y dydd â phosibl. Unarddeg y bore weithiau. Achos does yna fawr neb arall yno yr adeg honno ac yr ydych chi'n cael llonydd i wylio, clywed ac i fwynhau.

Be da chi'n golli, wrth gwrs, ydi'r awyrgylch arbennig yna o fod yn un o dyrfa sy'n cael ei dychryn, yn cael ei goglais neu ei gyrru i grio efo'i gilydd mewn lled dywyllwch.

Mae rhywbeth yn arbennig yn hynny - pe byddai pawb yn byhafio'i hun.

Fel y dywed Bethan dydi plant ddim yn cael eu dysgu bellach sut i fyhafio mewn pictiwrs.

Maen nhw'n "siarad drwy'r cwbl . . . crensian a ffidlan efo rhyw fagiau papur swnllyd . . . chwerthin yn uchel mewn mannau cwbl amhriodol . . . tecstio ar eu ffonau . . . taflu papurau at ei gilydd . . . cicio cefn eich sedd a'ch gyrru'n benwan."

Amen, Amen, Amen ac Amen.

Ond i mi, gwaeth na phlant ydi pobol mewn oed a ddylai wybod yn well.
Y ddwy hen ddynes y tu ôl ichi. Un, nad yw wedi deall yn iawn be sy'n digwydd ar y sgrin, yn egluro i'r llall be di'r stori.

Neu'n dadlapio papurau petha da byth dragywydd.

A dynion yn cnoi eu cil gyda mwy o sŵn na llond cae o fustych.

"Mae'n hen bryd i sinemau roi'r gorau i werthu fferins a chreision mewn pecynnau swnllyd," meddai Bethan.

Popcorn hefyd.

Hefyd dan lach Bethan mae traed sinemyddol dynion.

"Peidiwch a diosg eich esgidiau, yn enwedig os ydach chi'n ddyn mawr chwyslyd. Dydi o ddim yn deg ar bawb arall," medda hi.

Mae hi'n cymeradwyo penderfyniad y National Film's School Week i ofyn i athrawon roi plant ar ben ffordd ynglÅ·n ag eticet mynd i'r pictiwrs. Ond rwy'n ofni, waeth ichi siarad efo het ddim.

A phwy sy'n mynd i ddysgu manyrs pictiwrs i hen wragedd a ffyn?
Hen wragedd efo ffyn? Dyna ichi rywbeth arall eto . . .

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.