Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhifyn cyntaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:45, Dydd Mercher, 22 Medi 2010

Mae'r rhifyn cyntaf o Cristion dan ei olygyddiaeth newydd wedi cyrraedd. Rhifyn cyntaf y Parchedig Casi M Jones o'r Felinheli wrth y llyw.

Hithau'n brawf bod yr inc sydd yn y gwaed yn cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall gan ei bod yn ferch i Ned Thomas - newyddiadurwr a phen sbardunwr sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd, nes i'r Cynulliad droi'r drol arbennig honno.

Ta beth, yn ei rhifyn cyntaf o Cristion mae Casi Jones wedi ymwrthod - gwaetha'r modd? - â'r demtasiwn o osod ei stondin ac unrhyw agenda gerbron ei darllenwyr yn ei sylwadau golygydd.

Dim ond rhestru cyfraniadau'r rhifyn sy'n cynnwys cerdd a greodd Gwyn Thomas i'r cylchgrawn.

Wele hefyd, gyflwyno colofnydd newydd, Lyn Lewis Dafis fydd yn sgrifennu dan y teitl ClirLyn.

Ef, wrth gwrs yn flogiwr poblogaidd hefyd dan yr enw sy'n medru bod yn llais pryfoclyd ar faterion eglwysig, cymdeithasol a chrefyddol gan ddisgrifio ei hun fel "derwydd a chynghorydd o Aberystwyth, Ceredigion".

Mae'r cylchgrawn yn cloi gyda detholiad o bumo o weddïau; Dros Gymdeithas y Beibl, Cyfathrebu'r Efengyl, Clywed yr Efengyl, Byw'r Efengyl - a "Dros y Diwydiant Teledu".

Y golygydd newydd nesaf i gymryd ei gadair fydd Pryderi Llwyd Jones sy'n dilyn John Gruffydd Jones yn olygydd Y Goleuad.

Mae John Gruffydd Jones yn ffarwelio yn rhifyn Medi 24.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.