Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Waldio geiriau - dyfyniadau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:44, Dydd Gwener, 1 Hydref 2010

Cwpan Ryder, golff, Celtic Manor - amrywiaeth o bynciau wrth gofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Y diwrnod y creodd Gymru hanes gyda gweddill y byd yn edrych - prif bennawd (Cwpan ryder) y 'Western Mail', ddydd Gwener, Hydref 1 2010.
  • Mae'n grêt bod yng Nghymru - Corey Pavin, capten tîm Ryder yr Unol Daleithiau.
  • Mae cynnal Cwpan Ryder wedi dangos ein bod yn gallu herio traddodiadau hanesyddol sydd wedi dal Cymru yn ôl yn y gorffennol - Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog, yn lansio yr hyn sy'n cael ei galw yn Strategaeth Digwyddiadau Mawr.
  • Anghofiwch am Gymru, anghofiwch am y gweilch, mae jyst yn dda i'r bachan - Warren Gatland yn cymeradwyo penderfyniad Gavin Henson i chwarae i'r Barbariaid yn erbyn De Affrica, Rhagfyr 4.
  • Yn anffodus mae plant a phobl ifainc yn dal i godi gyda mi faterion ynglÅ·n â chyflwr toiledau ysgolion - Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru sy'n dweud yn ei adroddiad blynyddol nad yw rhai ysgolion yn darparu sebon na phapur tÅ· bach.
  • Rydw i wedi torri allan y sothach - Gwyn Jones o Rhuthun yn egluro sut y collodd 14 o'i 28 stôn mewn blwyddyn.
  • Dyw e ddim yn rhan o fy mywyd rwy'n falch ohono - Syr Tom Jones am y ddelwedd a greodd ohono'i hyn fel Bom Rhyw.
  • Byddaf yn pregethu wrth fy nghyfeillion ac yn eu hannog i droi'n ôl at S4C i roi cyfle arall i'r sianel - Margaret Lowe o Lanfairfechan wedi ei phlesio â rhaglenni newydd S4C mewn llythyr yn 'Y Cymro'.
  • Mae gan S4C ran allweddol i'w chwarae i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau i oroesi. O ran hyn, nid darlledu yn unig yw ei swyddogaeth - Alun Ffred Jones AC y Gweinidog Diwylliant.
  • Y sialens oedd portreadu'r math o gtymeriad pwerus a chadarn a fyddai gweinidog yr adeg hynny gan gadw llygad barcud ar safonau moesol y gymuned - Y Parchedig Marcus Robinson a fydd yn cymryd rhan yng nghyfres teledu realaeth y Ö÷²¥´óÐã, Snowdonia 1890, lle bydd pobl yn byw dan amgylchiadau y cyfnod hwnnw.
  • Rwy'n falch nad trethdalwyr sy'n talu am y math yma o nonsens - Darren Millar AC Gorllewin Clwyd am gynllun Ysgol Uwchradd y Rhyl i gynnig gwyliau ar Ynys Wyth er mwyn annog plant i fynychu'r ysgol yn rheolaidd.

  • Mae'r nifer gynyddol o bobl sy'n cyrraedd y cant yn achos dathlu - Michelle Mitchell o 'Age UK' yn cyhoeddi bod pedair gwaith mwy o bobl yn cyrraedd eu cant oed yn awr o gymharu â 1981.
  • Mae gwasanaeth rheithgor yn ddyletswydd gyhoeddus bwysig y mae'n rhaid i bawb ei chyflawni waeth pa mor adnabyddus ydy nhw. - y Barnwr Francis Gilbert yn gwrthod esgusodi'r pêl-droediwr o Gymro, Carl Fletcher, sy'n chwarae i Plymouth Argyle rhag gwasanaeth u ar rheithgor.
  • Iaith yr oes gyfrifiadurol yw Saesneg ac mae'n cymryd drosodd gyda phlant yn defnyddio gadgets cyn gallan nhw siarad. Does gan gyfrifiaduron ddim acenion na dywediadau. Does . . . mi fydd ein hiaith ni yng Nghymru, fy iaith i, yn peidio â bod. Sut all yr iaith gystadlu yn erbyn rhywbeth fel 'cyberspace'? - y diweddar Orig Williams y mae ei hunangofiant newydd ei gyhoeddi gan Y Lolfa yn Saesneg.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.