Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Creu geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:18, Dydd Iau, 11 Tachwedd 2010

Heb amheuaeth, cwch pi pi am JetSki oedd y bathiad Cymraeg gorau o derm Saesneg a gafodd Dafydd a Caryl ar eu rhaglen fore ddoe ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.

Wedi eu hysbrydoli gan nifer y geiriau newydd yn yr argraffiad diweddaraf o eiriadur Collins chwilio yr oedd y ddau am ffurfiau Cymraeg i nifer o ymadroddion Saesneg fel namedropping, reflected glory, starstruck, gastric band ac ati.

Dafydd a Caryl

Er mai braidd yn siomedig a chlogyrnaidd oedd y rhan fwyaf o'r cynigion mi sleifiodd ambell i fathiad gwreiddiol iawn i mewn fel y cwch pi-pi yna am y cerbyd môr JetSki.

Tynnwyd hefyd sylw at fathiad bachog Emyr Llewelyn, bolgi baw am vacuum cleaner.

Mi hoffais i hefyd arwr-garwr am hero worshipper ac yr oedd Caryl, yn naturiol, wrth ei bodd gyda'r gair bando am gastric belt. Cynigion eraill oedd belt bloneg, belt barus a belt atal bol.

Ymunodd Geraint Evans, cyn ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth, â'r ddau yn eu hymchwil ac yr oedd ganddo ef sawl awgrym diddorol:

Murdal - am paywall sy'n gorfodi defnyddiwr i dalu am fynediad i wefan.
Ufferngorn am vuvuzelas swnllyd Cwpan Bêl-droed y Byd.
Gŵyl adref oedd y cynnig am Staycation yn cywasgu'n gladre.
Ceidem am glymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Fflamio am 'to flame' mewn ebyst.
Hawddus am simples Meercat yr hysbysebion..

Yr oed Geraint yn cymeradwyo fel un da y gair blog a'i ffurfiau, blogiau a blogio - a hynny oherwydd bod blog, er nad yn air cynhenid Gymraeg, yn air sy'n ymddwyn yn Gymreig gan dreiglo a mabwysiadu ffurfiau eraill fel blogiwr ac yn y blaen yn gwbl naturiol.

Ffurfiau eraill a anfonwyd gan wrandawyr oedd:

  • TÅ· bach clwm - ensuite
  • Ffristag - Freeview ond efallai'n gyfyngedig i ardal Caernarfon.
  • Belt atal bol - gastrict band
  • Hapenwi, enw-frolio, dadlwytho enwau, sêrsonio - namedropping.
  • Crachgarwyr, selebgi, sêrddotiwr, sêrgarwr - hero worshipper.
  • Twm Twm - sat nav (ar ôl TomTom)
  • Gwepgodiad - facelift.
  • Cwsgad neu nosio - sleepover.

Dyna ddigon o eiriau am y tro - ond mae croeso ichi anfon eich bathiadau chwithau.

    Mae Dafydd Du a Caryl yn darlledu am 0830 ddydd Llun i ddydd Gwener ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.