Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau olaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:55, Dydd Gwener, 31 Rhagfyr 2010

Pêl-droed, crefydd a bargeinion. Tri phwnc a fu'n destun sylw yn ystod yr wythnos a fu.

Detholiad 'Cylchgrawn' o sylwadau eraill hefyd a welwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig. Geiriau olaf 2010, fel petai.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi.

  • Dal i fwynhau a joio pob munud - Adduned blwyddyn newydd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd.
  • Rhaid i bob cenedl wrth ei henwogion, rhaid i bob cenedl wrth ei selebs . . . ond gwir gryfder Cymru fel pob gwlad yw'r bobl go iawn, y rhai sy'n tryfu'n dawel yn eu broydd a'u heglwysi ac yn ffrwytho'n llawen. Ac mae dyletswydd ar y cyfryngau i roi llwyfan i'r bobl hyn - Elfyn Pritchard yn 'Y Goleuad'.
  • Wnaeth Jimmy mo hynny. Gallaf eich sicrhau gant y cant, gant ac ugain y cant. Wnaeth e ddim niwed i neb - Brawd James Hanratty, Michael, yn galw am edrych eto ar y dystiolaeth yn erbyn ei frawd a grogwyd yn 1962. Tystiodd Hanratty ei fod yn Y Rhyl adeg y lladd.
  • Mae afonydd yn Lloegr a Chymru ar eu iachaf ers dros ganrif gyda dyfrgwn, eogiaid a bywyd gwyllt arall yn dychwelyd . . . - Ian Barker o Asiantaeth yr Amgylchedd.
  • Ar hyd y blynyddoedd yr ydym wedi diolch fod y Beibl Cymraeg wedi achub yr iaith Gymraeg. Dyma'r cyfle a'r cyfnod i ni fel Cristnogion i wneud yr iaith honno nid yn unig yn iaith ein haddoli ond yn iaith ein haelwydydd a'n cymunedau hefyd - Nodyn Golygyddol 'Y Goleuad' yn dilyn pasio'r Mesur Iaith yn y Cynulliad.
  • Y mae cyplau sy'n osgoi cael cyfathrach rywiol cyn priodi yn profi perthynas fwy sefydlog ac amser brafiach yn y gwely yn ôl seicolegwyr - eitem newyddion yn y 'Western Mail' ddydd Mawrth.


  • Y mae ymgyrch fer yn ystod amseroedd drwg yn arwain fel rheol at ganlyniad da. Yn gyffredinol tueddir i golli refferenda yn ystod amseroedd da - Dr Matt Qvortrup arbenigwr ar refferenda o Brifysgol Cranfield yn rhagweld llwyddiant i'r ochr Ie yn refferendwm hawliau'r Cynulliad.
  • Mae yna rai cynigion deniadol iawn. Yr ydw i'n ddyn cynnil ond efallai yr af i siopa fy hun - Alan Wallace, rhelwr Canolfa Siopa Quadrant yn Abertawe wedi sylw ar ambell i fargen!
  • Yr ydym byth a beunydd yn cwyno nad yw Aelodau Seneddol yn siarad yn agored, eu bod yn celu'r gwir. A'r munud y mae un ohonyn nhw yn bod yn onest ac yn dweud ei farn , mae pawb yn taflu wyau ato - Hafina Clwyd yn cydymdeimlo â Vince Cable AS yn y 'Western Mail' wedi iddo gae ei ddal yn siarad yn rhy onest â gohebwyr cudd y 'Daily Telegraph'.
  • Ynys Môn yw'r dewis rhataf [o gymharu â'r] lleoedd mwyaf poblogaidd ar benrhyn LlÅ·n - Jonathan Haward o 'County Ö÷²¥´óÐãsearch' yn cymell buddsoddi ym Môn yn dilyn cyhoeddiad William a Kate.
  • Dydw i ddim yn siŵr beth yw cyflwr sgwad Cymru ond rwy'n gobeithio y gallaf gyfrannu rhywbeth iddi - Gavin Henson yn ôl ar y cae rygbi.
  • Mae bod yn gapten yn gryn anrhydedd ond nid dyna pam yr ydw i'n troi allan i Gymru. Gwisgo'r crys coch yw'r peth pwysicaf ac fe fydda i yn llwyr y tu ôl i pwy bynnag fydd Gary Speed yn ei ddewis yn gapten - Craig Bellamy yn dilyn ei gyhoeddiad nad yw am fod yn gapten tîm, pêl-droed Cymru.
  • Fe fyddai gen i ddiddordeb mewn capteinio Cymru drwy'r amser - Ashley Williams o dîm pêl-droed Abertawe sydd eisoes wedi bod yn gapten Cymru deirgwaith.
  • Rydym yn delio gyda nifer digynsail o rwygiadau mewn pibelli - Peter Perry, Cyfarwyddwr Gweithredoedd 'Dŵr Cymru'.
  • Mae'r wir fod y Gymraeg yn dal i gynhyrchu rhai pethau gwych, ond rwy'n cael yr argraff weithiau fod y pethau gwych hyn yn mynd ar goll yng nghanol môr o gyffredinedd. Nid yr her o orfod cynnal diwylliant ar ychydig arian yw'r her sy'n ein haros ni bellach, ond yr her o orfod achub ein diwylliant rhag dirywio ymhellach - Alan Llwyd, Golygydd 'Barddas', yn gofidio am gyflwr y diwylliant Cymraeg.
  • Dydi'r blaid erioed wedi bod mor uchel ond dydi hi ddim wedi bod mor isel chwaith mewn rhai ffyrdd - Yr Arglwydd (Roger) Roberts o Landudno yn trafod y Democratiaid Rhyddfrydol yn 'Y Cymro'.
  • Dwi jyst yn gobeithio y cawn ni ychydig o fabanod blwyddyn newydd - Dermont O'Leary, paramedig o'r Rhyl a fydd yn gweithio nos Calan.
  • Gwnes addewid flwyddyn newydd am y tro olaf [yn yr Wythdegau] - sef na fyddwn yn gwneud addewidion flwyddyn newydd eto. Rhaid canmol fy hun am gadw at yr addewid hwnnw - Arthur Thomas yn 'Y Cymro'.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.