Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cadw mewn cof

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:00, Dydd Gwener, 14 Ionawr 2011

Dim newid, meddai Alex. Wedi anghofio, meddai Cheryl. Hynny, a dyfyniadau am bynciau eraill a fu'n destun trafod mewn casgliad wythnosol o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .

  • Er gwaetha'r dirywiad dros gyfnod o 60 mlynedd, credwn fod Duw yn dal i fod gyda ni ac yn barod i'n hysbrydoli a'n harwain - os ydym ni'n barod i'w wasanaethu - Y Parchedig Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr.
  • Fe fu yna lawer o gyhoeddusrwydd negyddol ond credaf ein bod yn awr yn mynd drwy'r broses iachau - Alviro Peterson, capten newydd tîm criced Morgannwg.
  • Mae ein gwylwyr yn dweud wrthym fod darparu rhaglenni o safon yn rhoi S4C wrth galon diwylliant Cymru ac mae'n hanfodol i gynnal yr iaith Gymraeg - Rheon Tomos, Is Gadeirydd S4C.
  • Byddaf yn 70 ar fy mhen-blwydd nesaf. Mae yna bobl ifanc da o'm cwmpas fyddai'n gallu gwneud y swydd yn dda. Dyw o ond yn iawn i bobl fel hyn gael y cyfle - , llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, yn cyhoeddi y bydd yn ymddeol.
  • Rwy'n credu i BHS i gyd fy nghlywed i'n sgrechian - Sarah Evans yn derbyn y newydd ar y ffôn bod ei baban Jasmin a bwysai bwys ac owns pan y'i ganwyd wedi tyfu digon i gael dod adref o'r ysbyty.
  • Dyw Cymru ddim yn sylweddoli ond mae ganddi anferth o fudiad ieuenctid - Prys Edwards ar 'Beti a'i Phobl' gan ychwanegu bod y mudiad ymhell o fod yn rhy fawr a bod "lot o ffordd i fynd eto".

  • Nid mynd ar ryw sled £10 o Asda oedd hyn, ond ar gar llusg o ddyluniad clasurol o Sgandinafia sydd â nodweddion diogelwch ei hun gan gynnwys brêc diogelwch - a gafwyd yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol gan y Cyngor Addysgol Cyffredinol trwy adael i ddisgyblion ddefnyddio car llusg o'i eiddo.

  • Rwyf wedi'n synnu faint o bobl sy'n dweud wrthyf eu bod wedi meddwl am roi gwaed ond erioed wedi gwneud - yr actores yr achubwyd ei bywyd diolch i drallwysiad gwaed.
  • Yn aml mae gofalwyr yn anobeithio ac yn brwydro ymlaen heb gymorth - yn cwyno bod gormod o fiwrocratiaeth.
  • Y gwir yw na fyddai'r cestyll wedi cael eu codi oni bai am Dywysogion Cymru a'r bygythiad ganddyn nhw i'r Goron yn Llundain -
  • Yn anffodus fe wnes i gamgymeriad yn y cyfweliad radio ac rwy'n awr yn cofio imi gyflwyno Mesur Aelod Preifat mewn enw yn unig ochr yn ochr a nifer o rai eraill wythj mlynedd yn ôl fel chwip gyda'r wrthblaid - Ysgrifennydd Cymru, yn cywiro ei hun.
  • Rwy'n credu bod pobl sy'n newid yn wirion. Dim ond job yw hi, does dim rheswm i newid - Alex Jones yn dweud wrth y 'Western Mail' heddiw ei bod am aros yr un fath.
  • Plentyn tragwyddoldeb yn nillad amser yw dyn - y diweddar Tom Nefyn Williams yn cael ei ddyfynnu yn 'Y Goleuad'.
  • Robbie Savage i chwarae i Gymru eto? Hoffwn feddwl y byddai gan y rheolwr newydd Gary Speed fwy o synnwys - Delme Parfitt, colofnydd yn y 'Wales on Sunday'.
  • Yn y dyfodol, os bydd o angen unrhyw help neu angen rywbeth gen i fyddai hynny ddim yn broblem - Ryan Giggs yn cynnig ei gefnogaeth i Gary Speed; ond nid trwy chwarae ar y cae.
  • Yn wir, fe af i ymhellach a dweud y byddai'n sarhad ar y gweddill o'r garfan pe byddai Gatland yn ei enwi y Sul nesaf - Barry John, yn y 'Wales on Sunday', yn gwrthwynebu cynnwys Gavin Henson yn ei garfan Chwe Gwlad.
  • Treulio amser gyda fy nghariad brydferth Sheree a fy mhlant Theo a Bonnie - Aled Brew yn dweud wrth beth sy'n ei wneud yn hapus.
  • Yr oedd cyrraedd y rowndiau terfynol yn deimlad gwych. Yn well nag unrhyw foment rygbi; hyd yn oed ennill y Chwe Gwlad - Gavin Henson yn anwylo ei hun i'r byd rygbi wrth sôn am ei hynt ar 'Strictly'.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.