Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ambell ddyfyniad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:48, Dydd Gwener, 18 Chwefror 2011

Rhai pethau a glywyd ac a ddarllenwyd yn ystod yr wythnos a fu. Casgliad wythnosol o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .

  • Gan fy mod i heibio fy mhreim fydda i ddim yn gallu chwarae rygbi ond gan fy mod i'n actor bydd yn rhaid imi edrych fel pe gallwn i. Ac fe fydd hynny yn gryn waith i ddechrau - Mickey Rourke sy'n paratoi i chwarae rhan Gareth Thomas mewn ffilm.
  • Mae'r cefnogwyr yn gweiddi o'ch cwmpas yn gwneud i chi chwarae'n dda - Gareth Thomas yn siarad am chwarae yn Stadiwm y Mileniwm. Ond nid pawb, bob tro, yn anffodus, fel y gŵyr cefnogwyr rygbi ond yn rhy dda.
  • O fannau annisgwyl y daw y pethau sydd o gymorth. Mewn blagur blodyn, mewn cyfarchiad, mewn amlen mewn gwên ar wyneb plentyn. Gafaelwch yn y pethau hyn i gyd, a'u hystyried yn fendithion - Angharad Tomos yn myfyrio dros brofedigaeth a galaru yn adran 'Yr Herald Cymraeg' yn y 'Daily Post'.
  • . . . clwb pêl-droed wedi prynu . . . Fernando Torres am £50 miliwn. Eitem arall ar y newyddion fod Sefydliad Prydeinig y Galon yn gobeithio, drwy waith caled gwirfoddolwyr, i god £50 miliwn dros . . . bum mlynedd i ymchwilio i'r posibilrwydd o adfer calon glwyufedig. Mae'n rhyfedd o fyd - Tudur Ellis, Cadeirydd Cangen Caernarfon SPYG mewn llythyr yn 'Y Cymro'.
  • Efallai bod rhywfaint o flinder eisteddfodol fel petai . . . efallai bod rhyw deimlad 'O, na, dim eto!' - Y Prifardd Robat Powell yn ymateb i i godi arian tuag at eisteddfod genedlaethol y mudiad yn Abertawe eleni.
  • Ro'n i'n siarad efo rhywun y diwrnod o'r blaen, ac roedd o'n dweud wrtha'i: 'Mae pobol yn dod i mewn i S4C gyda gwên ar eu hwyneb - Rheon Tomos, is gadeirydd Awdurdod S4C, yn dweud wrth 'Golwg' bod yr ysbryd yn uchel ymhlith y staff o fewn S4C. Gobeithio bod y gwylwyr yn gwenu hefyd.
  • Mae gennym ni gynllun trwsio newydd ac yn lle mynd yn ôl a 'mlaen i'r un hen dyllau a rhoi rhywbeth dros dro - nawr byddwn yn gorffen y gwaith yn iawn yn y fan a'r lle - Y , sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ar bwyllgor gwaith Cyngor Caerdydd.
  • Dydw i erioed wedi bod yn siwr be ydi ystyr dweud fod 'brwydr yr iaith drosodd'. Iawn, mi fedrwn ni bwyntio at nifer o fuddugoliaethau dros yr hanner can mlynedd ddiwetha ond mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd fod yr iaith wedi colli tir fel iaith gymunedol fyw - Alun Ffred Jones AC, Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad, yn 'Y Cymro'.
  • Mae mynd ag arian oddi wrth elusennau Cymreig i dalu am ddigwyddiad na fydd o fawr fantais i'n gwlad ni yn anghyfiawnder mawr - y Parchedig Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr, yn anhapus bod elusennau yng Nghymru ar eu colled oherwydd y Gemau Olympaidd.

  • Galla i eistedd rwan am oriau heb fod neb yn dweud dim wrtha i achos bod gen i ddigon o atgofion yn gyrru rownd fy mhen - Iona Trevor Jones, y trefnydd blodau, a fydd ar y rhaglen deledu O'r Galon nos Sul am 2030 a nos Fawrth 2200.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.