Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hau geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:49, Dydd Gwener, 25 Chwefror 2011

Ambell beth a glywyd ac a ddarllenwyd yn ystod yr wythnos a fu. Casgliad wythnosol o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .

  • Arferwn fod yn anffyddiwr ond nid mwyach. Fy nghred i yw nad wyf eisiau byw mewn sicrwydd, byddai hynny yn uffern . . . pa hawl sydd gan unrhyw feidrolyn i ddweud eu bod yn gwybod y gwirionedd? - Anthony Hopkins sy'n ymddangos mewn ffilm am fwrw allan ysbrydion aflan, 'The Rite'.
  • Mae hi eisiau bywyd tawel - llefarydd ar ran Duffy sy'n cymryd seibiant yn dilyn gwerthiant siomedig ei sengl ddiwethaf.
  • Dydi hi ddim yn deg symud Hooky o gwmpas - Neil Jenkins yn cydymdeimlo ddydd Llun â James Hook sy'n cael ei symud gymaint o gwmpas y cae gan Gatland.
  • Dydy nhw ddim mor wirion ag maen nhw'n edrych - Yr Athro Jenny Morton o Brifysgol Caergrawnt sydd wedi darganfod fod defaid yr un mor beniog a llygod mawr, mwncïod a hyd yn oed pobl.
  • Mae angen adnewyddiad democratiaeth ac ethol cynghorwyr ifancach, mwy egwyddorol a chyda gwell balans o ran rhyw - Y Cynghorydd Clive Mcgregor yn chwilio am atebion i drafferthion Cyngor Ynys Môn.
  • Mr Average go iawn - Disgrifiad Iolo Williams ohono'i hun yn 'Golwg' .

  • Tydw i ddim yn gwybodbob dim am addysg o bell ffordd, ond dw i'n gwybod rhywfaint - Y Cynghorydd Liz Saville Roberts, sy'n gyfrifol am bortffolio Addysg Cyngor Sir Gwynedd, yn 'Golwg'.
  • Mae 'na beiriannau wedi bod yn golchi'r ffyrdd ac mae pawb yn siarad am yr ymweliad - Stephen Peters, sy'n cadw modurdy ym Mae Trearddur lle yr ymunodd William a Kate a .
  • Mae'n anrhydedd byw o dan awyr dywyll mor fendigedig ac i weld y golygfeydd rhyfeddol sy'n digwydd uwch ein pennau bob nos - Steve Porter sy'n byw lle nad yw goleuni 'r ddaear yn amharu ar awyr y nos. "Mae ymwelwyr yn rhyfeddu pa mor amlwg yw'r sêr a'r Llwybr Llaethog yma," meddai.
  • Ni chafodd yr un plentyn ei eni i fod heb gyfle - Andrew Chalinder, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru yn 'Y Cymro'.
  • Credaf fod yr awgrym hwn yn sarhad ar yr holl gystadleuwyr a'r holl eisteddfodwyr sy'n mynychu'r Å´yl i gael diwylliant Cymraeg, i fwynhau cerdd dant ac i wylio'r prif seremonïau - Dafydd Edwards yn ymateb mewn llythyr at 'Y Cymro' i syniad yr Eisteddfod Genedlaethol i gael sgriniau yn dangos y Gemau Olympaidd ar y maes yn 2012.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.