Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nofelau'r Aifft

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 16:24, Dydd Sadwrn, 12 Mawrth 2011

Gyda'r Aifft gymaint yn y newyddion yn ddiweddar siawns na bydd diddordeb mwy na'r cyffredin mewn darlith a draddodior dan nawdd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, ar Ebrill 1
Traddodir Ffurf drefol a ffurf lenyddol: Cairo a'r nofel Eifftaidd ers y 1990au gan Yr Athro Sabry Hafez, Athro Anrhydeddus mewn Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Qatar.

Mewn nodyn a anfonodd yn egluro cefndir y ddarlith dywedodd Angharad Price sy'n uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac yn nofelydd blaenlaw yn y Gymraeg:

"Mae poblogaeth Cairo bellach tua 17 miliwn, a mwy na hanner y bobl yn byw mewn tai dros dro yn yr ardaloedd sianti o gwmpas canolbwynt hanesyddol y ddinas. Yr enw Arabaidd am ardaloedd o'r fath yw al-madun al-'ashwa'iyyah: o'i gyfieithu'n fras 'dinas fympwy' neu 'ddinas siawns'.

"Nid oes ynddynt na systemau carthffosiaeth na dwr glân, ac mae'r strydoedd yn rhy gul i ganiatáu mynediad i'r gwasanaethau brys. Mae gorboblogi dwys yma: mae teuluoedd cyfain yn rhannu un ystafell mewn rhai ardaloedd, ac mae llosgach yn gyffredin. Mae'r diciâu a hen glefydau tebyg bellach yn rhemp.

"Er bod poblogaeth yr Aifft wedi dyblu er 1980, nid chynyddodd y llywodraeth ei gwariant ar iechyd, addysg, tai ac yn y blaen. O ganlyniad, mae strwythur cymdeithasol bellach ar ffurf deinosor: pen bychan o gyfoethogion pwerus yn rheoli corff anferth o dlodion.

"Yn ei ddarlith, bydd yr Athro Sabry Hafez yn trafod sut y mae'r amgylchiadau hyn i'w gweld yn eglur yn y nofelau a ysgrifennwyd yn yr Aifft dros y ddau ddegawd diwethaf, nid yn unig o ran cynnwys, ond hefyd yn eu 'diffyg' ffurf.

"Mae 'blerwch' di-draddodiad y nofelau hyn yn adlewyrchiad o dwf y slyms yng Nghairo ei hun a'r rhwyg â thraddodiad yn adlewyrchiad o ddieithrwch ehangach," Meddai..

A dyfynnir y Athro Hafez ei hun yn dweud: "Wrth astudio nofelau'r ddau ddegawd diwethaf, gwelir yn eglur bod gwrthryfel yn anochel. A hynny yn union a gafwyd yn yr Aifft yn ystod yr wythnosau diwethaf: chwyldro anochel sydd yn dal i fynd yn ei flaen."

Mae'r Athro Hafez yn frodor o'e Aifft ac yn ddarlithydd ym mhrifysgolion Cairo, Rhydychen, Stockholm, Los Angeles a SOAS, Llundain.

Fe'i disgrifir fel un o awdurdodau pennaf y byd ar lenyddiaeth Arabeg fodern ac mae'n golygu cylchgrawn Al-Kalimah (alkalimah.net).

  • Traddodir y ddarlith yn Narlithfa 3, Prif Adeilad y coleg am dri o'r gloch.
  • Ö÷²¥´óÐã iD

    Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

    Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.