Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ac yn dwedyd . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:03, Dydd Gwener, 8 Ebrill 2011

Rhai yn smala, rhai o ddifri - ambell i beth a glywyd ac a ddarllenwyd yn ystod yr wythnos a fu. Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi.

Ond cofiwch bod yn wefan sy'n lân o bob leciswn . . .

  • Mae hyn jyst yn dangos ein bod ni'n sefydliad aml-ddiwylliannol - llefarydd o Brifysgol Bangor yn egluro yn 'Y Cymro' y rheswm am arwyddion osodwyd mewn tai bach yn y coleg yn egluro sut yn union i'w defnyddio "oherwydd y trefniadau gwahanol sy'n bodoli mewn amrywiol wledydd i ddelio a charthffosiaeth".
  • Mae'n edrych fel y fwyaf yr ydym wedi ei threfnu hyd yn hyn - Kevin Bowker un o drefnwyr protest danwydd fydd yn arafu'r drafnidiaeth ar yr A55 fis Mai.
  • Hoffai'r actor Rhys Parry Jones roi gwybod mai ei 'swydd ddiwetha', yn hytrach na'i 'swydd waetha', oedd chwarae cymeriad o'r enw 'Incarceron' mewn drama radio . . . - Cywiriad yn '.
  • Yr ydym yn mynd allan efo pweced a chasglu cyn gymaint ag a allwn a'u symud allan o berygl - Jonathan Hulson, trefnydd ymgyrch i ddiogelu brogaod sy'n croesi'r ffordd yn Rhosesmor, Sir Y Fflint.
  • Yr ydym yn defnyddio'r arwydd yn Lloegr a dyw pobl ddim eisiau'r Gymraeg arno yno felly rydym yn ei gorchuddio â thâp - Contractwr yn ardal Dolgellau lle cwynodd gyrrwr tacsi fod y Gymraeg wedi ei chuddio ar arwydd ffordd. Addawyd defnyddio 'jet wash' i wneud y geiriau'n glir!
  • Mi wnaeth merch oeddwn i'n siarad â hi sgrechian - y Cynghorydd Elfyn Williams, Deganwy, yn dweud i lwynog marw gael ei adael yn ei ardd.
  • Oherwydd ei fod yn ffurf sy'n gwasgu bob owns o bŵer allan o eiriau ac yn cynyddu eu gwerth nhw hefyd, mae'r cryf yn gryfach mewn cynghanedd. Mae'r berthynas rhwng sŵn ac ystyr yn fwy na'r ddau ar wahân - Dylan Iorwerth yn ei golofn Gymraeg yn y 'Western Mail' ddydd Mercher.
  • Mae ansawdd llenyddol peth o'r gwaith sydd ar y gweill rydym yn gallu ei noddi yn arbennig ac fe ddengys bod Cymru'n parhau i gynhyrchu talent lenyddol o'r radd flaenaf - Katie Gramich, Cadeirydd Panel yn cyhoeddi nifer o ysgoloriaethau i awduron.
  • Maen nhw wedi aberthu llawer i'w chadw'n fyw a'r lleiaf fedrwn ni ei wneud yw eu helpu i'w chadw ymlaen - Aled Rees o gwmni Teithio Tango sy'n noddi .
  • Mae'n well imi ddechrau 'gwneud fy hun i fyny' os yw e'n mynd i ddal i ddod rownd fan hon - Cymydog ar ôl clywed bod David 'The Hoff' Hasselhoff yn canlyn Hayley Roberts o Abertawe.
  • Parti Cerdd dant Ysgol Gynradd Llanllyfni, 1962 - Cefin Roberts yn ateb yn 'Golwg' y cwestiwn; "Beth yw'r parti gorau i chi fod ynddo?"
  • Mewn gwlad fel Japan yr oedd ganddyn nhw bopeth - mwy nag oedden nhw ei angen - ond yn awr y mae pobl yn sydd wedi colli popeth - Taka Hirose o'r band Feeder yn dilyn ymweluiad â'r wlad.
  • Mae gan y tlawd bethau rheitiach i'w gwneud na mynd am dro i weld olion hen adeiladau'r gorffennol. Gadewch y rheini i ymwelwyr sy'n medru gwirioni ar bentwr o gerrig - Madog Mwyn yn ymateb yn i fethiant cynllun mynediad am ddim i safleoedd hanesyddol yr Adran Dreftadaeth.

  • Does dim cynlluniau i ddatganoli darlledu i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Mae e yn dod o dan adain y DCMS - Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn 'Golwg'.
  • Mi fyddai'n well gennym ni beidio gorfod bownsio'n ôl drwy'r adeg - Brendan Rodgers yn anesmwyth ynglÅ·n â hanes clwb pêl-droed Abertawe o golli ac ennill bob yn ail.
  • Newyddiaduraeth sâl yw peidio enwi'r cynghorqwyr dinistriol, cyfaddefaf. Ond dydi 'Barn' ddim gwahanol i'r Ö÷²¥´óÐã a'r wasg a'r cyfryngau Cymreig a Chymraeg yn eu cyfanrwydd. Rydan ni i gyd yn euog - Vaughan Hughes, un o olygyddion mewn cyfyng gyngor ynglÅ·n ag enwi hogia drwg Cyngor Môn.
  • Dyna ni am y tro.

    Ö÷²¥´óÐã iD

    Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

    Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.