Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dau yn Wembli

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:40, Dydd Sul, 29 Mai 2011

A minnau wedi bod yn paldaruo gymaint am Abertawe yn Wemblicefais fy atgoffa heddiw nad yr Elyrch fydd yr unig dîm o'r ardal i fod yn ymgiprys yno.

Yng Nhwpan N Power bydd tîm Ysgol Gynradd Pontybrenin, Gorseinon, yn wynebu Leeds United ac yn gallu manteisio - gobeithio - ar floeddiadau dros ddeugain mil o gefnogwyr yr Elyrch.

Mae'r tîm hefyd wedi cael sesiwn hyfforddi gyda Gary Speed cyn teithio tua Llundain 'na.

Nawr pe byddai'r ddau dîm o Abertawe yn ennill allwch chi ddychmygu'r awyrgylch sy'n mynd i fod ar faes yr Urdd ac yn y ddinas.

Mi allwch chi glywed ar yr iPlayer ddau o ddisgyblion yr ysgol yn siarad efo Dylan Jones am yr edrych ymlaen sydd yna a Dylan, medda fo, ddim yn cefnogi Leeds mewn gêm am y tro cyntaf yn ei fywyd.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.