Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 07:13, Dydd Gwener, 8 Gorffennaf 2011

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.


  • Mae'n mynd i fod yn arbennig iawn, iawn, gwisgo'r crys glas yna eto - Robert Earnshaw yn dychwelyd i chwarae pêl-droed yng Nghaerdydd.
  • Diolch bod Abertawe yn yr uwch gynghrair, siawns y gwelwn ni gefnogwyr teyrngar timau fel Lerpwl a Man U bellach yn cefnogi tîm o Gymru. Byddai hynny'n rhywbeth - Elfyn Pritchard yn 'Y Goleuad'.
  • O ran chwarae teg ac enw da'r lle yma, dylen ni godi'r gwaharddiad - Alun Ffred Jones yn dadlau dros .
  • Mae diddymu tlodi plant erbyn 2020 bellach yn dasg aruthrol, a rhaid i ni bellach edrych y tu hwnt i hynny - , awdur adroddiad ar dlodi plant yng Nghymru.
  • Bydd rhywbeth ynddo at ddant y rafins a'r blw rinsys, dyn y llong a dyn y llys, dyn y gwin, dyn y geiniog, dyn yr inc a dyn yr og -
  • Dw i a'r Awdurdod yma i sicrhau bod yna oruchwyliaeth dros waith y sianel a gwaith y swyddogion - Huw Jones, cadeirydd newydd Awdurdod S4C.
  • Cyhuddo S4C o gamarwain y cyhoedd - pennawd dalen flaen heddiw.
  • Doeddwn i erioed wedi bod yn cadw llygaid ar fy mronnau, dwi ddim yn meddwl bod rhywun sydd yn eu hugeiniau yn meddwl llawer am y peth ond rwy'n gwybod nawr ei bod mor bwysig gwneud - Nia Hughes, 28 oed, yn erfyn yn WA-w! ar i ferched ifanc archwilio eu bronnau wedi iddi ddarganfod bod ganddi ganser.
  • Cymro gwlatgar yw Ned, ond nid ar gyfer y Gymru fewnblyg mae'n ysgrifennu - Y Dr Simon Brooks yn cyhoeddi mai Ned Thomas yw awdur Llyfr y Flwyddyn 2011.
  • Mae'r gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth, y seremoni ar ei newydd wedd eleni, categoreiddio flwyddyn nesaf ... pwy a ŵyr beth sydd ar y gorwel i Llyfr y Flwyddyn - gwyliwch y gofod - Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru â ffydd yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
  • Mwynder Maldwyn ar blât - arwyddair cwmni gwerthu cig newydd, Cig Coch, a sefydlwyd gan Arwyn Groe Davies a Gwenllian Lansdown.
  • Rwy'n teimlo fel petai darn ohona i ar goll. Roedd teulu fy nhad yn siarad Cymraeg ond cafodd hynny ddim ei basio i lawr i ni fel plant - Melanie Walters, yr actores o Abertawe fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen dysgu Cymraeg, 'Cariad at Iaith'. Dywedodd y gwelai hynny fel cyfle anhygoel i geisio cadw'r iaith yn fyw ac i annog ei mab i'w dysgu a magu ei blant ef "gyda chariad at iaith".
  • Y peth euraidd i ni fel Cymry yw'r Eisteddfod, a glo oedd 'aur' ardal ddiwydiannol Wrecsam, felly roedd yn bwysig bod glo'n cael ei gynnwys rywle ar y Goron - John Price o Fachynlleth yn egluro pam mai o lo y gwnaed y nod cyfrin yn a wnaeth ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.