Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cawod sydyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:10, Dydd Llun, 1 Awst 2011

Cawod andros o drom gynnau yn gyrru'r Orsedd i fochel yn y Babell Lên yn hytrach na chyfarfod rhwng y meini - er iddi ddod yn haul unwaith eto ers hynny.

Ond fu na rioed ddrwg nad yw'n dda i rhywun ac mi ddweodd Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu yr Eisteddfod, wrthyf i'r gawod honno fod yn hwb sylweddol i werthiant ambaréls y Steddfod (£7.50 yr un)!

Mochel dan yr ambarel - Gwenllian Carr ac ambarel y Steddfod

Fel sy'n addas i Eisteddfod yn Wrecsam o bobman ambaréls dwbwl ydyn nhw - hynny yw, maen nhw'n effeithiol fel parasôls hefyd!

Yr hyn hoffais i oedd y pennill tywydd bach sydd arnyn nhw:

Buwch Goch Gota,
Glaw neu hindda
Os daw glaw
Cwymp o'm llaw
Os daw haul, hedfana.

Nid un o'r penillion tywydd yr ydw i'n gyfarwydd a hwy.
Er o'r gogledd, y rhigwm fydd yn cael ei ddyfynnu yn ein tÅ· ni pan ddaw hi'n law ydi
Bwrw glaw allan
Hindda'n y tÅ·
A merched Tregaron
Yn nyddu gwlân du
.

Be di'ch rhigwm tywydd chi? Anfonwch i ddweud.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.