Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Eisteddfod Nia - dydd Gwener

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 10:03, Dydd Sadwrn, 6 Awst 2011

Bu Nia Lloyd Jones yn blogio bob dydd o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Dyma sut ddiwrnod gafodd hi ddoe.

Un o'r grwpiau dawnsio ar y llwyfan bore ma oedd Clocswyr Ceulan a Garmon.


Dawnswyr ac Aneirin a Nia


Dwy chwaer sydd yn gyfrifol amdanyn nhw - gydag Alaw yn gweithio hefo criw Ceulan yn Nhalybont ger Aberystwyth, a Heledd yn gweithio hefo criw Garmon yn yr Wyddgrug.

Ia, dau grŵp yn ymarfer ar wahân ac yn uno ar lwyfan yr Eisteddfod - ac fel petai hynny ddim yn ddigon o sialens, roedden nhw hefyd wedi gofyn am help gan y rapiwr Aneirin Karadog ac mi roedd o yn eu canol nhw ar y llwyfan.
Difyr iawn!

Wedyn mi ges i sgwrs hefo'r tad a'r mab yn ystod cystadleuaeth y partïon alaw werin - Dan ac Euros Puw.



Dan sydd yn gyfrifol am gadw trefn ar Feibion Llywarch, ac mae hynny'n dipyn o dasg, ac mae Euros yn aelod o'r parti hwnnw.

Roedd Euros hefyd yn dathlu ei ben-blwydd heddiw. Mae'n debyg bod Dan wedi bod mewn arwerthiant ŵyn ddoe - yn gwerthu stoc er mwyn cael pres i ddod i'r Eisteddfod. Ac i brynu presant i Euros wrth gwrs!

Roedd hi'n ddiwrnod mawr iawn i Gwenno Morgan


Gwenno Morgan


heddiw wrth iddi hi ennill y Rhuban Glas Offerynnol dan 16 oed. Mae Gwenno'n bianydd o fri - yn 12 oed a newydd basio ei gradd wyth!

A heno noson y corau ydi hi. Côr Merched Llangwm oedd y côr cerdd dant buddugol ac mi roedd ganddyn nhw tua 60 o ferched ar y llwyfan!

Amwni bod holl ferched y pentref ar y llwyfan heno!

Daeth Côr Llefaru Genod Llŷn i'r brig hefyd - ac mae nhw'n cael eu hyfforddi gan Rhian Parri sydd wedi cael wythnos brysur iawn - yn arwain yr Eisteddfod.

Ond heno ei thro hi oedd hi i gael eistedd yn y pafiliwn i fwynhau'r cystadlu.

Cafodd Côr Gwerin Aelwyd yr Ynys wobr gyntaf hefyd dan arweiniad Nia Evans, a'r côr ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y corau cymysg oedd Cordydd.

Maen nhw wedi cael sawl llwyddiant yn y gystadleuaeth hon dros y blynyddoedd - ac yn canu dan arweiniad eu harweinydd medrus, Sioned James.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.