Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia Lloyd Jones - dydd Llun

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 10:11, Dydd Mawrth, 2 Awst 2011

Mae Nia Lloyd Jones Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn blogio o gefn llwyfan bob dydd

Mi roedd hi'n brysur iawn gefn llwyfan bore ma wrth i'r Orsedd ymgynnull.

Glas, gwyn a gwyrdd ymhobman ac yn eu canol nhw ddau mewn piws a chorn gwlad yr un ganddyn nhw.

Paul a Dewi

Mae Paul a Dewi wedi bod yn gyfrifol am ganu'r cyrn ers deng mlynedd bellach ac yma'n ddeddfol bob Llun, Mercher a Gwener ar gyfer y gwaith. Ac os oes 'na un sŵn sydd yn cyfleu'r Eisteddfod Genedlaethol i mi - wel sŵn y ddau yma ydi o - hynny yw sŵn y ddau gorn.

Braf iawn oedd gweld Rhys Jones yn ei wisg wen hefyd. Urddwyd Rhys yn wreiddiol nol yn 1970v a'r un oedd wrth ei ochr y diwrnod hwnnw oedd Mary Hopkin.

Yn ôl Rhys roedd y camerâu ymhobman yn tynnu ei llun hi, ac mae'n debyg bod y lluniau hynny wedi ymddangos ar hyd a lled y byd - gyda Rhys yn gwenu fel giât wrth ei hochr.

Roedd tri gŵr bonheddig yn cystadlu ar yr unawd bechgyn heddiw; Rhys Meilir, Aron Dafydd a Rhydian Jenkins.


Rhydian ddaeth yn gyntaf heddiw a dwi wedi bod yn ei ddilyn o ers rhai blynyddoedd bellach.

Yn ogystal â bod yn ganwr da mae o hefyd yn chwaraewr rygbi addawol - yn chwarae i Dondu a Sir Penybont ac mi welais ei dad o yn cael gair bach tawel wedyn hefo Ceidwad y Cledd - Robin Mcbryde.

Pwy a ŵyr - ella mai dyma un o sêr nesa tîm rygbi Cymru ac os ydi o'n chwarae cystal ac y mae o'n canu - mae'r dyfodol yn ddisglair iawn.

Mi ges i bwl o hiraeth ganol pnawn wrth weld Parti Dyffryn Clwyd yn ennill dwy wobr gyntaf heddiw.

Pam? Wel, Leah Owen sydd yn eu hyfforddi nhw a flynyddoedd maith yn ôl fe fues i'n canu mewn parti tebyg iawn dan arweiniad Leah hefyd - sef Parti'r Ynys.

Parti Dyffryn Clwyd

Dyddiau da oedd y rheiny a, diolch i Leah, fe gawson ni sawl llwyddiant ac mi wnes i ffrindiau fydd gen i am oes.

Roedd hi'n ddiwrnod arbennig iawn i Siwan Mair Rhys o Lansannan - gan mai hi enillodd y Rrhuban Glas offerynnol dros 19 oed.


Mae'n bianydd o fri ac newydd ddychwelyd o fod yn astudio yn y Conservatoire yn Rennes.

Mae'n debyg ei bod hi hefyd yn dipyn o arddwraig ac yn cael hwyl dda ar dyfu llysiau.

Mae gen innau ddiddordeb mawr yn hyn, a dwi'n edrych ymlaen at gael mynd adra ddydd Sul i weld sut siâp sydd ar fy nhomatos a'r pys.

Mae'r tatws wedi hen orffen ond ta waeth am hynny - dechrau mae gyrfa Siwan, a phob hwyl iddi hi yn y Guildhall yn Llundain fis Medi.


Blog dydd Sul.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.