Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Taith i'r Wrecsam a fu

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Sian Lloyd Sian Lloyd | 16:25, Dydd Llun, 1 Awst 2011

Cychwyn yn gynnar bore ma ac i ffwrdd o'r Maes. Gwariais rai oriau yng nghwmni Phil Phillips, hanesydd lleol wnaeth fy nhywys ar daith gerdded trwy ganol tref Wrecsam. Treuliais flynyddoedd lawer yn byw yn Wrecsam ac mae'n rhyfeddol beth nad ydych yn ei sylwi ar stepen eich drws.

Gwnaethon ni ymweld â'r hen farchnadoedd a'r bragdai ac esboniodd Phil pa mor llewyrchus oeddent yn eu dydd. Doeddwn i fyth wedi sylwi ar y gloch yn y farchnad gig o'r blaen -ond ces i'r cyfle i'w chanu heddiw ac roedd hi dal yn gweithio! Esboniodd Phil fod y gloch yn cael ei defnyddio yn y dyddiau cyn dyfeisio'r oergell, er mwyn hysbysu'r bobol leol i dyrru i ddod i brynu'r cig rhad ar ddiwedd dydd. Roedd yn dipyn o gambl gan na fyddech yn gwybod beth oedd yn eich ymaros nes i chi dalu amdano! Ond roedd yn rhaid gwerthu'r cig cyn iddo droi. Mae'r teithiau cerdded yma'n boblogaidd iawn a gallwch chi weld fy siwrne ar raglen yr Eisteddfod ar S4C heno.

Wedi hyn roedd hi'n amser troi nôl i'r Maes ac roedd Wynne Evans, y Canwr enwog, yn eistedd wrth fy ochr yn blogio hefyd. Felly cawson gyfle am glonc fach! Pnawn ma dwi allan ar y Maes ac yn sgwrsio gyda'r cystadleuwyr tu ôl i'r llwyfan. Y Coroni yw uchafbwynt y dydd ac rydym ar bigau'r drain yn aros i weld os oes rhywun wedi dod i'r brig eleni -gobeithio bydd gennym fardd buddugol!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.