Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Anifeilaidd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:19, Dydd Llun, 12 Medi 2011

Maen nhw'n dweud i mi mai fel Llygoden Fawr neu Lygoden Ffrengig y mae rebeliaid Libya yn cyfeirio at y Cyrnol Gaddafi.

A dyna'r oedd yntau yn eu galw hwythau hefyd - "Llygod mawr" - gan ddefnyddio'r geiriau i sarhau ei gilydd yn yr un modd ag y mae Saeson yn defnyddio'r gair "rat" wrth gyfeirio at rai pobl. "He's a rat."

Rhaid cyfaddef nad oes i'r ffurf Gymraeg, Llygoden Fawr / Ffrengig / Ffyrnig yr un grym â'r gair bachog rat yn y cyd-destun hwn. O leiaf does gen i ddim cof clywed neb yn dweud am rywun ei fod yn llygoden fawr yn y ffordd y byddent yn dweud bod rhywun yn rat yn y Saesneg.

Ac erbyn gweld dydi'r gair Arabaidd am "rat" ddim yn un sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredin i'r pwrpas hwnnw yn yr iaith honno ychwaith - ci neu asyn fydden nhw debycaf o'i ddweud i gyfleu ystyr y Sais o rat.

Ffasiwn newydd mewn geiriau ydi'r busnes rat yma iddyn nhw.

Yn naturiol, parodd darllen am y pethau hyn i rywun hel meddyliau am ein defnydd ni'r Cymry o enwau anifeiliaid i ddisgrifio pobl bydded yn sarhaus neu fel arall.

Mae gennym ein Llew yn ein Llewelynod (sydd yn wahanol i Lywelyn gyda llaw). Blaidd sydd wrth wraidd Bleddyn ac arth, am wn i, sydd yn Arthur gan roi'r argraff fod y rhain yn anifeiliaid nobl yng ngolwg pobl.

Sylweddoli hefyd y gall yr un anifail olygu gwahanol bethau dan wahanol amgylchiadau.
"Mae o rêl mochyn," medde chi am rywun anghwrtais, difanars, neu'n am rywun sy'n ymdrybaeddu mewn baw.

Ond fyddai neb yn cymryd ato o gael ei ddisgrifio fel rhywun sy "cyn hapused" a mochyn neu sy'n "cysgu fel mochyn".

A dyna ichi'r ci. Yr ydan ni i gyd yn deall beth â olygir pan ddywedir am rywun mai hen gi ydi o neu am ferch, ei bod yn "hen ast".

Ond er na fydden nhw yn diolch am y disgrifiadau hynny byddent yn gwbl hapus cael eu disgrifio o fod mor ffyddlon neu mor driw â chi.

Wiwer meddem ni wedyn am rywun cysetlyd.

Colomen yw'r wraig drwsiadus ar ben stryd y mae ei thÅ· yn llanast ac yn faeddol.

Colomen hefyd yw merch braidd yn penchwiban - y dumb blonde - sy'n gwneud pethau gwirion, "y g'lomen wirion".

Ac yda chi'n "hen iar"?

Mae rhai anifeiliaid yn rhydd o gael eu defnyddio yn gymariaethau o'r fath. Gall, fe all rhywun fod yn "gryf fel ceffyl" ond "cicio fel mul" fyddai rhywun er bod gan feirch eu castiau hefyd ond y maen nhw yn rhy bendefigaidd i gyfleu sarhad.

Nid felly buwch ac yr ydym i gyd yn gwybod beth a olygir wrth ddweud mai llo ydi rhywun.

Ond fyddech chi ddim yn dweud bod rhywun "yn geffyl" i ddynodi rhagoriaeth yn yr un ffordd ag y byddech yn dweud bod rhywun "yn ful" i gyfleu'r gwrthwyneb.

A beth am lyffantod? Gallant hwy olygu gwahanol bethau mewn gwahanol ymgnawdoliad.

Byddai dweud bod rhywun yn benbwl yn golygu rhywbeth gwahanol i ddweud ei fod yn llyffant - a'r un o'r ddau yn arwydd o edmygedd

A druan o'r neidr. Truenusach fyth wiber!

Beth, tybed, hoffech chi gael eich galw yn y byd animorphaidd hwn? A beth ddim? Pa ddisgrifiadau sy'n gweithio, pa rai ddim? Anfonwch air.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.