Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau disglair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:48, Dydd Gwener, 28 Hydref 2011

Gyda'r blaned Iau ar ei disgleiriaf yn awyr y nos dros y penwythnos mi gymerwn ninnau olwg ar rai o'r pethau disglair a ddywedwyd yn ystod yr wythnos.

Ac ambell i beth dwl hefyd, siŵr o fod, yn ei detholiad wythnosol o ddyfyniadau.

  • Y lle gorau yn y byd i ymweld ag ef yn 2012 - Dyna arfordir Cymru, meddai'r 'Western Mail' y bore ma gan ddyfynnu o'r 'Lonely Planet's Best in Travel'.
  • Gallwn fod yn hyderus bod y cytundeb yn sicrhau annibyniaeth olygyddol ac ariannol S4C yn y peirianwaith sydd wedi'i greu drwy'r cytundeb yma - Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C yn .
  • Yr hydref yw gwanwyn y cyfryngau - Elfyn Pritchard yn 'Y Goleuad' ar drothwy tymor o raglenni a chyfresi radio a theledu newydd.
  • Pam na roddwn ni dreth ar fwydydd sydd ddim yn iachus, fel yr ydym yn gwneud ar sigarennau ac alcohol? - Dr Nadim Haboubi sy'n rhedeg clinig rheoli pwysau yng Nglynebwy.
  • Does yna neb wedi cwyno, o bosib fod neb wedi sylwi neu eu bod nhw yn rhy brysur yn mwynhau hanner tymor - Helen Armitage, Clerc Cyngor Tre Conwy, lle mae'r awr wedi newid ar gloc Eglwys Fair wythnos yn rhy gynnar.

  • Yr ydw i'n mynd i suddo'n ôl i ebargofiant ym Mhorthmadog . . . - Marilyn Mantle sy'n cynorthwyo mewn siop elusen ym Mhorthmadog ond a gafodd ran annisgwyl yn chwarae corff marw yn y ffilm 'Retreat' efo Cillian Murphy, Thandie Newton a Jamie Bell.
  • Ef yw dyn y foment nid yn unig i'r SNP ond i'r Alban - Elin Jones AC wedi ei gwefreiddio gan Alex Salmond arweinydd yr SNP yn dilyn ei hymweliad a chynhadledd y blaid honno. Aeth ymlaen i ddisgrifio'r Deyrnas Unedig fel sham o wlad.
  • Mi ddarllenais yn rhywle mai'r wlad ddelfrydol fyddai gwlad a beirdd yn llywodraethu arni . . . Os gwireddir breuddwyd Alex Salmond am annibyniaeth, yr Alban fydd y wlad agosa sydd i'r wlad ddelfrydol; arian bardd fydd wedi talu am yr ymgyrch. Yn ei ewyllys . . . mi adawodd Edwin Morgan [y bardd] bron i filiwn o bunnau i Blaid Genedlaethol yr Alban - Twm Morys yn ei golofn farddol yn.
  • Fe fyddwn i wedi bod yn hapus efo £100 - y cyn AS ac AC y Dr John Marek a gafodd £1,420 ar eBay am hen simdde Victorianaidd o'i eiddo yn Wrecsam. Y pris cychwynnol oedd 99c. Bydd yn rhannu'r arian rhwng achosion da.
  • Yr ydym yn anfon bwrdd wedi ei arwyddo i'r cwpl fel rhywbeth i'w gadw ac yn arwydd o ddiolch. Hefyd, fe all Duges Caergrawnt brynu ei harchfarchnad leol gydag arian papur yn unig - Mark Hauser un o gyfarwyddwyr cwmni'r gêm 'Monopoly' wrth i fersiwn Sir Fôn o'r gêm weld golau dydd heddiw wedi i'r sir gael ei rhoi ar "fap y byd gan y briodas frenhinol" ddiweddar.
  • Gwelais yn y wasg lun o Archesgob Cymru, Barry Morgan, yn rhoi gweddi dros fuddugoliaeth i Gymru yng Nghwpan y Byd. Tra bu ar ei liniau tybed a wnaeth rhywun ei atgoffa i roi munud neu ddau i ddweud gair dros Brifysgol Cymru, y mae'r Archesgob yn Ddirprwy-Ganghellor arni? - Gwawr Jones, Bangor, mewn llythyr yn 'Y Cymro'.
  • Mae hi'n gymaint o ysbrydoliaeth, yn glyfar ac ar y bêl a phe gallwn i efelychu dim ond mymryn o'r rhan yna o'i bywyd fe fyddwn i'n hapus - Susie Whiteley, 21 oed o Benybont-ar-Ogwr yn llawn edmygedd o ddawn allu Katie Price ym myd busnes ar sail cystadlu yn y sioe 'Signed by Katie'.
  • Wrth brynu cynnyrch organig mae rhywun yn gwneud mwy na phrynu bwyd, yn cefnogi system o amaethyddiaeth sy'n gynaliadwy ac yn gwarchod y tir - Dafydd Owen, Rheolwr Prosiect cynllun Gwell Cysylltiadau Busnes Organig.
  • Mae hi bron iawn yn Dachwedd neno'r tad - Ray Carson, rheolwr gyda Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi wedi iddynt orfod achub mam a'i mab oedd mewn trafferthion ar diwben rwber yn y môr. "Mae mynd allan i'r môr yr adeg hon o'r flwyddyn yn y fath dywydd ac ar deganau fel hyn yn lloerig," ychwanegodd.
  • Gallai fod wedi mynd i unrhyw un. Rwy'n teimlo'n lwcus iawn - Gruff Rhys ar ôl ennill y Wobr gerddoriaeth Gymraeg.
  • Braidd yn betrus ydw i o gefnogi'r Urdd a'u swae tua Phatagonia. Meddyliwch, ugain o bobol ifanc yn crwydro i ben draw'r byd i hyrwyddo rhywfaint ar yr iaith. A hen ddigon o waith cenhadu wrth eu traed eu hunain. Glywsoch chi griw o bobol ifanc yn Aberystwyth yn siarad Cymraeg efo'i gilydd yn ddiweddar? - Madog Mwyn yn 'Y Cymro'.
  • Y Cymry 'yn rhy dlawd i gladdu eu meirwon - pennawd yn y 'Wales on Sunday' ddydd Sul diwethaf.
  • Doedd yna ddim geiriau; fe wnaethom ni gydio yn ein gilydd. Roedd yna ddeigryn neu ddau fel y byddech chi'n tybio - Des Williams 66 oed o Bontrhydyfen yn cyfarfod ei fam am y tro cyntaf.
  • Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun, ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo - Y Parchedig Adrian P Phillips yn dyfynnu Diarhebion 28:11 yn 'Y Goleuad'.

  • Prifysgol Cymru'n marw ac atgyfodi yr un dydd - pennawd yn 'Golwg'.
  • Rydym i gyd yn byw yn hwy, yn byw yn iachach am fwy o amser ac mae angen dathlu hyn - Iwan Rhys Roberts o Age Cymru yn ymateb i'r newydd "bod poblogaeth Cymru yn heneiddio yn gynt na gweddill y DU".
  • Wn i ddim beth sydd i ddod ond mae her rhywbeth gwahanol yn fy nghyffroi i'n fwy na blwyddyn arall o rygbi - Gareth Thomas yn ymddeol o'r gêm.
  • Mae gen i nifer o ymrwymiadau cyfryngol ar hyn o bryd ac rwy'n gyfforddus yn gwneud yr hyn rwy'n ei wneud. Ond y mae rheoli yn sicr yn rhywbeth yr wyf eisiau ei wneud yn y dyfodol - John Hartson yn y 'Daily Post' yn ymwrthod â rheoli tîm pêl-droed Wrecsam ond . . .
  • Beth bynnag ddywedwch chi am Toshack, ac nid fi oedd ei brif edmygwr, fe ddefnyddiodd e'r ieuenctid a rhoi cymaint o brofiad iddyn nhw. Rydym yn gweld ffrwyth y llafur yna nawr, ac rwy'n teimlo nad ydym yn bell o gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau - Neville Southall.
  • Rydym yn teimlo balchder ac anrhydedd - Adam Lawrence, Prif Weithredwr y Bathdy Brenhinol, Llantrisant, wrth i'r gwaith o greu medalau y gemau Olympaidd a Pharaolympaidd gychwyn yno.
  • I fod yn onest â chi doeddwn i ddim yn haeddu bod yno - Gavin Henson am Gwpan y Byd.
  • - A wobrwywyd am fod yn flog Cymraeg gorau Cymru mewn seremoni yng Nghaerdydd nithiwr. Y blog gorau o bob un oedd gan Phil Stead.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.