Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Kate ac eraill

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:41, Dydd Llun, 3 Hydref 2011

Derbyn rhestr ddifyr o lyfrau oddi wrth Y Lolfa - y llyfrau fydd y wasg yn eu cyhoeddi rhwng hyn â'r Nadolig.

Yn eu plith mae Cofiant Kate Roberts gan Alan Llwyd sydd yn siŵr o fod yn dipyn o lyfr.

Mae'n ei ddisgrifio fel "cofiant edmygus" i "Gymraes fwyaf yr ugeinfed ganrif".

Yr hyn sy'n syndod yw mai dyma'r cofiant cyntaf i i'r wraig y cyfeirir ati byth a hefyd fel "Brenhines ein llên" ac un a chanddi fywyd diddorol hefyd gydag Alan yn addo dadlennu llawer iawn am y bywyd hwnnw gan gynnwys y dyfyniadau cyntaf o'i dyddiaduron.

"Bydd y gyfrol yn dadlennu'r gwirionedd am ei pherthynas hi a'i gŵr; perthynas ei gŵr a Prosser Rhys a sawl stori ffrwydrol arall," meddai'r Lolfa am y gyfrol.

Un am yr hosan Nadolig heb os.

Cofiant arall sy'n ymddangos yn addawol ydi un yr actores Sharon Morgan. Mi gafodd hi 'mensh', chwedl hwythau, yn hunangofiant Meic Povey - tybed fydd hi'n ymateb?

I weld y rhestr lawn o lyfrau ymwelwch â gwefan y Lolfa lle mae am holl gyhoeddiadau'r Nadolig sy'n cynnwys cyfrol gan John Meirion Morris a Gwyn Thomas, hanes brwydr Heulwen Haf â chanser y fron a hanes Tony ac Aloma.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.