Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:30, Dydd Gwener, 18 Tachwedd 2011

Ar ddiwrnod pan yw'r Ö÷²¥´óÐã yn annog pobl i fod yn ffyliaid detholiad o ddyfyniadau sy'n dangos pa mor gall a gwirion all pobl fod. Dewiswch chi p'run di p'run . . .

  • Diwrnod y gallwn yn hawdd wneud hebddo - Madog Mwyn yn 'Y Cymro' yn llai na chefnogol i heddiw. Dydd Plant Mewn Angen.
  • Gadewch inni anghofio'r cymylau economaidd am ychydig ac ymuno â'r codi arian - Ymateb llai bachog y 'Daily Post' i'r diwrnod.
  • Mae'n dod i lawr yr A470 a'i goes yn bownsio ar bob twll yn y lôn - Andrew R T Davies AC, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, yn dweud bod Darren Millar AC ar ei ffordd i gymryd rhan mewn pleidlais bwysig er bod ei goes mewn plaster.
  • Be da chi'n galw joci sydd wedi syrthio oddi ar ei geffyl? Ffranci di torri - 'George' yng nghynhyrchiad diweddaraf Cwmni Bara Caws, C'mon Mid-laiff.
  • Mewn difri calon mi fyddai cyfraniad llond bws o Geredigion yn cael tua'r un effaith ar refferendwm Albanaidd ag anfon uned o'r FWA i drechu Arlywydd Assad yn Syria - Lefi Gruffudd yn y Western Mail heb ei argyhoeddi o werth cynnig Plaid Cymru i helpu yn ymgyrch refferendwm annibyniaeth yr Alban.

  • Oni fyddai'n syniad da i S4C fynd gam ymhellach a mynd ati i ddangos porn Cymraeg, dyweder ar ôl canol nos bob nos Sadwrn - Aled Lewis o Bow Street yn ymateb yn 'Y Cymro' i gynlluniau S4C i wneud rhaglen am Sophie Dee, seren porn o Lanelli. Mae'n ychwanegu; "Onid John Walter Jones ddywedodd fod angen gwneud yr iaith yn fwy'secsi'?"
  • Byddwn i'n gobeithio y byddai'r drysau yn aros ar agor - Archesgob Cymru yn darogan yr ymateb pe byddai gwersyllwyr y tu allan i Eglwys Llandaf.
  • Mae'n well gen i Abertawe i brifddinas Cymru - mae llawer mwy i'w wneud yma - Serek Acorah, seicig sydd wedi rhagweld dyfodol disglair i dîm pêl-droed y ddinas yn yr uwch gynghrair.
  • Nid yw dysgwyr Cymraeg yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol gan eiriaduron sy ar gael ar hyn o bryd - Roger Kite, dysgwr o Lanandras yn cwyno yn 'Y Cymro' am brinder "annisgwyl a rhwystrol o eiriaduron da" ar gyfer dysgwyr.
  • Trista'n byd gorau'n byd; fy ffefryn yw Yr Eneth Gadd i Gwrthod - Lisa Jên o 9Bach yn sôn am ei hoff ganeuon yn y 'Western Mail' heddiw.
  • Mae gwrando wastad yn bwysig - Leanne Cole o Sir Benfro a fu'n cynorthwyo i baratoi poster am hawliau pobl ifanc anabl.
  • £1.3 miliwn - yr arian sydd ar gael i ddiogelu treftadaeth Merthyr Tudful.

  • Pe byddai Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn cael chwarae i Dîm GB yn Gemau Olympaidd Llundain 2012 fe fydden nhw yn gwneud eu cefnogwyr a'r genedl yn falch - Golygyddol y 'Western Mail' heddiw.
  • I mi, mynd drosodd yno [i Ffrainc] oedd y peth grau i mi wedi Cwpan y Byd. Mae'n debyg na chefais i Gwpan y Byd wych yn bersonol a fyddai bod yn styc yma [yng Nghymru] ddim wedi helpu - James Hook yn y 'Western Mail' heddiw.
  • Gall pawb weld yn glir nad oes modd datrys hyn gydag ysgwyd llaw - Ashley Williams, amddiffynnwr Abertawe a Chymru, yn ymateb i sylwadau Sepp Blatter, pennaeth FIFA, am hiliaeth.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.