Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:59, Dydd Gwener, 25 Tachwedd 2011

Wythnos arall - dyfyniadau eraill.


    • Bydd dilyn ôl troed trysor cenedlaethol yn her - Ceri Wyn Jones sydd wedi ei ddewis yn feuryn y Talwrn i olynu Gerallt Lloyd Owen.
    • Yn y Cynulliad y mae rhai o elynion pennaf Prifysgol Cymru - pennawd dalen flaen 'heddiw.
    • Mae Albert yr aligetor wedi bod yn gwneud synnau caru . . . er mwyn denu Nancy y fenyw - Michelle Pywell o Sw Mynydd Bae Colwyn yn sôn yn y 'Daily Post' am un o'r arwyddion fod y tywydd anhymorolyn drysu anifeiliaid.

    • Byddwn yn dweud wrth y gŵr anrhydeddus am beidio â gwastraffu ei arian - Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Cymru, yn ymateb gwestiwn gan Kevin Brennan AS am yr ods diweddaraf ar ei hymadawiad o'r Swyddfa Gymreig. Gofynnodd iddi a fyddai hi'n cymeradwyo bet ar ei thynged.
    • Yr oeddwn eisiau mynegi fy nghefnogaeth iddyn nhw. Credaf fod Duw yn dduw yr holl fyd. Y mae â diddordeb ym mhopeth sy'n digwydd ynddo - Archesgob Cymru yn ymweld â gwersyll protestwyr Occupy yng Nghaerdydd.
    • Rwy'n ystyried y sefyllfa ynglÅ·n â'r arweinyddiaeth - Leanne Woods yn cyhoeddi bod pwysau arni ymgeisio am arweinyddiaeth Plaid Cymru.
    • Chi'n gweld pobl yn yfed, rydym yn teimlo fel carcharorion o fewn ein cymuned - Vanessa Marsh, cadeirydd grŵp sy'n ymgyrchu i wahardd yfed ar y stryd yn Llanelli.
    • Un o'n llenorion mwyaf enigmataidd; dyn oedd yn llawn deuoliaeth a chymhlethdodau; dyn na fedrai dorri'r llinyn bogail oedd yn ei glymu i'w fam waeth ble'r âi; dyn o gefndir y chwarel ym Methesda a ddaeth i fwynhau bywyd Bohemaidd Llundain. Liciwn i fod wedi ei gyfarfod - Pauline Williams cynhyrchydd rhaglen am Caradog Prichard, 'Afal Drwg Adda', yn ystod penwythnos Caradog Prichard ar S4C nos Sadwrn, 2100.
    • Stori Dafydd a Goliath . . . dim bwys be ydi maint y brobem o flaen chdi mae yna o hyd ffordd i ddatrys y broblem - Ed Holden sy'n rapio straeon o'r Beibl.
    • £14,743 - y cytfartaledd cyflog yn Nwyfor Meirionnydd. Yr isaf yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd ddoe.
    • O Gymru yr oedd fy nghariad cyntaf yn yr ysgol. Yn wir, roedd Gavn yn fy atgoffa ohono; fo oedd fy nghariad ysgol uwchradd ac yn dod o'r Cymoedd - Layla Manoocherhri un o'r cariadon a wrthodwyd gan Gavin Henson yn y gyfres deledu 'The Batchelor'. Mae hi'n awr yn Bricis o Birmingham sy'n yfed cwrw a mwynhau pêl-droed ond, yn ôl y 'Wales on Sunday' ni ddylai cefnogwyr rygbi o Gymru anobeithio ychwaith.
    • Y dyddiau hyn y mae popeth yn unffurf. Mae'r chwaraewyr yr un maint a'r un nerth. Nid felly'r oedd hi yn yr hen ddyddiau - yr oedd dynion gwirioneddol galed yn sefyll allan - Lynn Davies yn colli chwaraewyr caled fel Mervyn Davies, Ray Gravell, Charlie Faulkner a Dai Morris yn ei lyfr 'Hard Men of Welsh Rugby' (Lolfa).
    • Y mae'n rhywbeth i unrhyw grwt ifanc ei nodi. Os nad ydych yn fawr o ran maint fe allwch fod yn fawr o ran gallu a phenderfyniad. Fe allwch lwyddo - Shaun Edwards yn crynhoi gwers gyrfa Shane Williams y chwaraewr bach sydd ar fin ymddeol.


    • Wel lle ma' Ian [Gwyn Hughes] y byd rygbi? - Lefi Gruffudd yn y 'Western Mail' yn sylwi bod mwy o Gymraeg ar wefan Cymdeithas Pêl-droed Cymru nag un Undeb Rygbi Cymru a phriodoli hynny i ddylanwad Ian Gwyn Hughes.
    • Yr oeddwn yn meddwl mai tynnu coes oedd o. Mae gen i ffrindiau eitha doniol felly doeddwn i ddim yn siwr - Lewis Evans yn ymateb i gael ei alw i garfan Cymru i wynebu Awstralia.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.